
Sut i Fachu Asiant
Ymunwch â dau asiant llenyddiol am sgwrs agored, ddidwyll am yr hyn sy’n denu eu sylw, yr hyn sy’n gwneud iddynt roi gorau i ddarllen, a’r hyn mae awduron yn aml ei gamddeall am gyflwyno eu gwaith i asiant a chyhoeddwyr. Dyma yw eich cyfle i glywed dau asiant yn trafod esiamplau o waith a rhai o’r cwestiynau byddwch wedi eu rhannu’n ddi-enw o flaen llaw.
Bydd yr asiantau hefyd yn archwilio rhai o’r camsyniadau am bwysigrwydd lleoliad, ac yn trafod i ba raddau oes angen bod yn Llundain mewn gwirionedd er mwyn ymuno â byd cyhoeddi’r DU, a’r llwybrau sydd ar gael i awduron o Gymru sy’n datblygu eu gyrfaoedd.
Dewch â’ch cwestiynau. Ewch oddi yno gyda gwell ddealltwriaeth o’r hyn y mae asiantau’n chwilio amdano, a sut i roi’r cyfle gorau posibl i’ch gwaith.