Folding Rock Rhifyn 006: Parti Lansiad TREIGL
Ymunwch â ni yn Pontio, Bangor i ddathlu lansio ein rhifyn arbennig Cynrychioli Cymru.
Rydym yn cynnal dathliad lansio ar gyfer chweched rhifyn ein cylchgrawn, wythnos cyn y diwrnod cyhoeddi swyddogol! Mae Rhifyn 006: TREIGL yn gydweithrediad arbennig gyda Llenyddiaeth Cymru a Poetry Wales, sy’n cynnwys gwaith cyn-gyfranogwyr Cynrychioli Cymru. Bydd cyd-olygyddion Folding Rock, Rob Harries a Kathryn Tann yn arwain y dathliad, a bydd cyfranwyr y rhifyn yn ymuno â ni i ddarllen darnau o’u straeon, traethodau, ac am un tro yn unig… Barddoniaeth!
Dewch draw i gwrdd â awduron, clywed rhai o ysgrifennu newydd gorau Cymru, dathlu rhaglen anhygoel ac i fod yn un o’r cyntaf i gael gafael ar y casgliad arbennig hwn o waith.
Mae tocynnau AM DDIM. Bydd pob rhifyn o Folding Rock ar gael i’w prynu ar y noson – taliad cerdyn yn unig.