Ymunwch â ni am sgwrs banel a darlleniadau i ddathlu pum mlynedd o raglen datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru!

Bydd Llio Maddocks yn holi Gwenno Gwilym a Catrin Cheung am eu gwaith, y profiad o fod ar y rhaglen, a’r cyfleoedd sydd wedi dod yn sgil hynny.