Euros ap Hywel
Ganwyd a magwyd Euros ap Hywel yng Nghaerdydd. Enillodd radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013. Ar ôl graddio, aeth i weithio i Gymdeithas yr Iaith, RSPB Cymru, ac wedyn fel slediwr cŵn yn Sweden. Bellach mae’n byw yn Ynys Môn ac yn diwtor e-ddysgu Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Euros yn naturiaethwr, anturiaethwr ac yn gyfieithydd. Mae wedi treulio amser yn byw mewn gwledydd gwahanol ac yn mwynhau teithio’r byd; mae’n gobeithio defnyddio’r profiadau a gafodd yn y llefydd hynny yn ei waith ysgrifenedig.
O ran genre, mae Euros yn mwynhau llyfrau ffantasi ac yn hoff o waith Tolkein, C.S. Lewis a Terry Brooks.
Twitter: @Euros92
Cath Barton
Ganed Cath Barton yn Lloegr, ac mae hi wedi byw yn Y Fenni ers 2006. Enillodd y New Welsh Writing AmeriCymru Prize for the Novella 2017 gyda The Plankton Collector, a gyhoeddir yn 2018 gan y New Welsh Review dan adain Rarebyte.
Mae’n hoff iawn o ddefnyddio delweddau gweledol i gynnau’r awen yn ei gwaith ac mae wrthi’n gweithio ar gasgliad o straeon byrion wedi eu hysbrydoli gan waith yr artist Iseldiraidd Hieronymus Bosch, a drigai yr unfed ganrif a’r bymtheg.
Mae’n weithgar iawn ym myd llen micro ar-lein ac yn cyfrannu’n gyson i’r fforwm digidol Wales Arts Review.
Cathbarton.com
Twitter: @CathBarton1
Ellen Davies
Bardd o’r Rhondda yw Ellen Davies. Mae ganddi radd BA mewn Llenyddiaeth Saesneg a gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd.
Mae gwaith Ellen wedi ymddangos mewn nifer o gylchgronau a chyfrolau gan gynnwys Envoi, Popshot Magazine a The Lonely Crowd.
Cyhoeddwyd pamffled cyntaf Ellen, Accent, gan Cinnamon Press ym mis Mai 2015. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth.
Twitter: @Ellendaviespoet
Rhiannon Lloyd Williams
Ganwyd Rhiannon Lloyd Williams ym Mryste a chafodd ei magu yng Nghaerdydd. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn 2017 gan ennill gwobr Syr John Morris Jones. Bellach, mae’n gweithio fel ymchwilydd i gwmni teledu Boom Cymru.
Mae wedi cyhoeddi straeon byrion a llên micro ar wefannau Y Neuadd ac Y Stamp ac wedi cyfrannu at gyfres Stori Tic Toc ar BBC Radio Cymru.
Ei hoff genre yw ffuglen wyddonol a’i gobaith yw ysgrifennu nofel ffuglen wyddonol i bobl ifanc. Bydd y Cynllun Mentora yn gymorth mawr iddi wrth lunio ei nofel gyntaf.
Twitter: @Rhiannonydwi
Bydd y chwe awdur canlynol, sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Awdur Newydd, yn ymuno â’r uchod ar y Cynllun Mentora:
Briony Collins
Mae Briony Collins yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor ac yn awdur sydd wedi ennill gwobrau niferus. Er bod dweud straeon yn rhan annatod o’i bywyd erioed, dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu pan oedd hi’n 21 mlwydd oed, a phan enillodd y 2016 Exeter Novel Prize am ei nofel gyntaf Raise Them Up.
Mae’n defnyddio ei gwaith i ymgyrchu dros hawliau dynol. Mae’r thema hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ei barddoniaeth. Mae wedi cael ei thiwtora gan y Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy a Gillian Clarke.
Bellach mae’r DHH Literary Agency yn cynrychioli Briony, wrth iddi orffen astudio yn y Brifysgol a datblygu ei gyrfa fel awdur.
Twitter: @ri_collins
William Gwyn
Yn enedigol o Fôn mae William Gwyn wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers dros chwarter canrif. Wedi astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth aeth ati i ennill bywoliaeth drwy ysgrifennu’n greadigol gan gyfrannu, yn bennaf, i’r opera sebon ddyddiol Pobol y Cwm – lle bu hefyd yn gweithio fel Golygydd Sgriptiau a Chynhyrchydd y Gyfres. Ers 2013, er yn parhau gyda’i waith sgriptio, mae hefyd yn astudio Ffrangeg a Saesneg yn rhan amser gyda’r Brifysgol Agored. Mae’r syniad o feddu ar lais gwahanol a newydd mewn ail iaith yn apelgar a hynny sydd wedi esgor ar roi cynnig ar ysgrifennu yn y Saesneg.
Twitter: @NawdegUn
Iwan Huws
Mae Iwan Huws yn gerddor a’n gyfieithydd (a’n gweini o bryd i’w gilydd). Ers dechrau addasu llyfrau plant i’r Gymraeg y llynedd, y mae bellach yn awyddus i gyhoeddi ei waith ei hun ar gyfer plant a phobl ifanc.
Daw’n wreiddiol o Ben Llŷn, ond erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu.
Twitter: @LlanwMawrHallt
Joanna Jones
Bu Joanna Jones yn gweithio gefn llwyfan ym myd y theatr, yn astudio gradd BA mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn cynorthwyo mewn digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol cyn gweithio fel llyfrwerthwr ac astudio am radd meistr yn Aberystwyth.
Wedi ei geni yn ne Cymru, mae Joanna wedi byw, gweithio ac astudio yn New Mexico, Y Ffindir a Bolivia. Mae ei barddoniaeth wedi ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Popshot, Galeri Aval-Ballan, a blodeugerdd Sisters Lost, Sisters Found. Cafodd ei henwebu ar gyfer y Forward Prize am gerdd unigol yn 2014.
Mae Joanna yn gobeithio defnyddio’r Ysgoloriaeth i weithio ar ei nofel gyntaf: stori dditectif i bobl ifanc wedi’i osod yn y 90au, ar ynys ddychmygol tebyg i Orkney.
Twitter: @mojanna_elise
Jemima Roberts
Mae Jemima Roberts yn awdur a bardd sy’n hanu o Ystâd Hafod yng nghanolbarth Cymru. Mae’n ysgrifennu ers ei harddegau cynnar, ac yn 2009 cafodd ei dewis i gymryd rhan yng nghwrs barddoniaeth Faber & Faber. Ers hynny, mae wedi perfformio ei gwaith ar draws y byd – ar dir a môr.
Wrth fagu ei mab dros y 5 mlynedd diwethaf prin oedd y cyfleoedd i ymarfer ei chrefft, er ei bod hi’n ysgrifennu bob hyn a hyn pan fo’r cyfle’n codi. Bydd 2018 yn gyfle newydd iddi atgyfodi ei chrefft.
Ynghyd â chyfrifoldebau eraill, bydd Jemima yn ymgymryd â phreswyliad yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Thatjemimaroberts.wordpress.com
Twitter: @jemima_roberts
Elizabeth Wilson
Mae Elizabeth Wilson yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Wedi graddio yn y Dyniaethau o’r Brifysgol Agored, mae’n ymroi ei hamser i hybu astudio addysg uwch drwy astudiaethau rhan-amser.
Cafodd gefnogaeth yr Open University Crowther Fund er mwyn cwblhau PhD mewn Llenyddiaeth Ol-Drefidigaethol, gan arbenigo mewn barddoniaeth angloffôn y Caribî.
Cwblhaodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2013 fu’n ysbrydoliaeth iddi ysgrifennu barddoniaeth yn hytrach na’i astudio. Bydd yn defnyddio’r Ysgoloriaeth i ddatblygu ei chasgliad cyflawn cyntaf. Mae Elizabeth yn byw ar arfordir Sir Benfro.