Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Cynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cefnogaeth a chymorth ymarferol i awduron newydd ar ddechrau eu gyrfa, er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill i safon cyhoeddi.
Mae’r Cynllun yn dechrau gyda chwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a dilynir y cwrs gan sesiynau un-wrth-un gyda mentor profiadol. Gall awduron ofyn am gymorth er mwyn datblygu un darn penodol o waith sydd ar y gweill, yn unrhyw un o’r genres cymwys: Barddoniaeth; rhyddiaith yn cynnwys nofelau a straeon byrion, llenyddiaeth plant a ffuglen i oedolion ifainc; llenyddiaeth ffeithiol greadigol, yn cynnwys cofiannau/hunangofiannau, a beirniadaeth lenyddol; nofelau graffeg. Ceir dyddiad cau blynyddol ar gyfer ceisiadau.
NODER: Nid yw Ysgoloriaethau Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd.

Derbynwyr Cynllun Mentora 2020

Mae 3 awdur newydd wedi ennill lle ar y Cynllun Mentora sef Beth Celyn, Abeer Ameer a Seran Dolma. Fe fydd y 6 awdur sy’n derbyn yr ysgoloriaethau sydd wedi eu clustnodi yn ymuno â nhw (yr Ysgoloriaethau Awdur Newydd a’r Ysgoloriaeth i awdur o dan 25). Bydd y Cynllun Mentora yn dechrau gyda chwrs pwrpasol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd far 2-7 Mawrth 2020, ac fe geir sesiynau mentora unigol yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio â chynrychiolwyr ar draws y diwydiant cyhoeddi.

Yn ogystal, dyfarnwyd lle i Susan Walton ar y Cynllun Mentora ar gyfer cyfieithu llenyddol, i weithio ar ei chyfieithiad Saesneg o nofel Gymraeg. Mae’r dyfarniad, oedd yn gynllun peilot ar gyfer partneriaeth newydd rhwng Llenyddiaeth Cymru a’r National Centre for Writing yn Norwich, gyda chefnogaeth gan Gyfnewidfa Lên Cymru, yn cynnwys cyfle i Susan fynychu penwythnos preswyl ar gyfer egin gyfieithwyr yn y National Centre for Writing yn Norwich ar 17-19 Ionawr 2020. Bydd cyfieithydd Pwyleg i Saesneg Marek Maj o griw egin gyfieithwyr y National Centre for Writing yn ymuno â chwrs Mentora Llenyddiaeth Cymru yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fis Mawrth.

Mae rôl y cyfieithydd yn hollbwysig er mwyn hyrwyddo deialog traws-ddiwylliannol, a gobeithir bydd y cyfle hyn yn cynorthwyo awduron Cymru i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, yn ogystal â chyfrannu at agwedd ryngwladol y sector llenyddiaeth yng Nghymru. Bydd y bartneriaeth yma hefyd yn galluogi cyfnewid rhyngwladol i awduron.

Os oes gennych ymholiadau ynglyn â’r Cynllun Mentora, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org

Cefnogir Ysgoloriaethau i Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Nôl i Datblygu Awduron