Emily Blewitt
Awdur This Is Not A Rescue (Seren Books, 2017) yw Emily Blewitt. Mae ei cherddi wedi eu cyhoeddi yn The Rialto, Poetry Wales, Ambit, a The North ymysg eraill, a derbyniodd gymeradwyaeth uchel yn y 2016 Forward Prizes.
Mae Emily wedi ymddangos yng Ngŵyl y Gelli, ar BBC Radio 4, ac wedi cymryd rhan ym mhrosiect Cymru Ryfedd a Chyfareddol, un o brosiectau Llenyddiaeth Cymru. Ymddangosodd un o’i cherddi ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn tair dinas yn China fel rhan o brosiect y British Council.
Mae Emily yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda’i gŵr, Greg, a’u cath, Ozymandias.
Emilyblewitt.wordpress.com
Twitter: @SEmilyBlewitt
Zillah Bowes
Mae Zillah Bowes yn awdur a gwneuthurwr ffilmiau. Enillodd y 2017 Wordsworth Trust Prize a Gwobr Cymru Greadigol 2017. Derbyniodd Gymeradwyaeth Arbennig yn y 2016 Wasafiri New Writing Prize a chafodd ei dewis ar gyfer rhaglen Writers at Work 2016-17 Gŵyl y Gelli.
Mae ei cherddi wedi eu cyhoeddi mewn cylchgronau a blodeugerddi, ac mae ar fin cwblhau ei chyhoeddiad cyntaf. Bu’n darllen ei gwaith yng Ngŵyl y Gelli, Keats House, Scottish National Gallery of Modern Art a’r Tate Modern.
Mae ei ffilmiau yn cynnwys Small Protests fel cyfarwyddwr, aeth yn ei flaen i ennill y Current Short Cuts Award, ac Enemies of Happiness fel sinematograffydd, ac enillodd y World Cinema Jury Prize yn Sundance.
insta @zillahbowes
Selena Caemawr
Mae Selena Caemawr yn fardd ac ymgyrchydd o Gymru. Mae’n ysgrifennu ynglŷn â byw ar groesffordd gormes fel merch awtistig, hoyw a thraws o gefndir ethnig sydd â salwch iechyd meddwl.
Mae ei pherfformiadau llafar, trawiadol ond agos atoch, yn aml yn herio dirnadaeth pobl ynglŷn â themâu megis hil, anabledd a rhywedd, wrth iddi ymdrechu i wella dealltwriaeth pobl ynglŷn â chydberthynas agweddau ar ddynolryw.
Twitter: @SCaemawr
Briony Collins
Mae Briony Collins yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor ac yn awdur sydd wedi ennill gwobrau niferus. Er bod dweud straeon yn rhan annatod o’i bywyd erioed, dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu pan oedd hi’n 21 mlwydd oed, a phan enillodd y 2016 Exeter Novel Prize am ei nofel gyntaf Raise Them Up.
Mae’n defnyddio ei gwaith i ymgyrchu dros hawliau dynol. Mae’r thema hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ei barddoniaeth. Mae wedi cael ei thiwtora gan y Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy a Gillian Clarke.
Bellach mae’r DHH Literary Agency yn cynrychioli Briony, wrth iddi orffen astudio yn y Brifysgol a datblygu ei gyrfa fel awdur.
Twitter: @ri_collins
Claire Fayers
Magwyd Claire Fayers yng Nghasnewydd, Gwent, ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n treulio llawer o’i horiau hamdden yn crwydro o amgylch cestyll yn chwilio am ddreigiau.
Bu’n gweithio fel gofalwr eglwys, cynorthwyydd siop esgidiau, ym maes iechyd a diogelwch ac mewn llyfrgell. Bellach mae’n awdur plant llawn amser, gan rannu ei hamser rhwng ysgrifennu ac ymweld ag ysgolion i rannu straeon a hybu darllen. Cyhoeddir ei chyfres Accidental Pirates yn y DU (Pan Macmillan) a’r UDA.
Bydd yr Ysgoloriaeth yn ei galluogi i ganolbwyntio ar gwblhau nofel newydd i blant wedi ei leoli yn ne Cymru, i’w gyhoeddi gan Macmillan’s Children’s Books.
Clairefayers.com
Twitter: @ClaireFayers
William Gwyn
Yn enedigol o Fôn mae William Gwyn wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers dros chwarter canrif. Wedi astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth aeth ati i ennill bywoliaeth drwy ysgrifennu’n greadigol gan gyfrannu, yn bennaf, i’r opera sebon ddyddiol Pobol y Cwm – lle bu hefyd yn gweithio fel Golygydd Sgriptiau a Chynhyrchydd y Gyfres. Ers 2013, er yn parhau gyda’i waith sgriptio, mae hefyd yn astudio Ffrangeg a Saesneg yn rhan amser gyda’r Brifysgol Agored. Mae’r syniad o feddu ar lais gwahanol a newydd mewn ail iaith yn apelgar a hynny sydd wedi esgor ar roi cynnig ar ysgrifennu yn y Saesneg.
Twitter: @NawdegUn
Rosalind Hudis
Mae Rosalind Hudis yn fardd, golygydd, mam a thiwtor ysgrifennu sy’n byw yn ardal Tregaron.
Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn nifer o gyfrolau a chylchgronau. Hi hefyd yw awdur pamffled o farddoniaeth, Terra Ignota (Rack Press, 2013) a chasgliad cyflawn, Tilt (Cinnamon Press, 2014). Derbyniodd cerddi o gasgliad Tilt ganmoliaeth uchel fel rhan o’r Forward Prizes for Poetry 2015. Yn 2017, derbyniodd Gymrodoriaeth Hawthornden.
Wedi graddio gydag MA o Brifysgol Coleg y Drindod Dewi Sant Llambed, mae Rosalind bellach yn gweithio i’r Brifysgol er mwyn cynnal cymorthfeydd barddoniaeth i fyfyrwyr ysgrifennu creadigol. Mae’n gerddor brwdfrydig ac yn mwynhau cerdded a dringo.
Twitter: @roshudis
Iwan Huws
Mae Iwan Huws yn gerddor a’n gyfieithydd (a’n gweini o bryd i’w gilydd). Ers dechrau addasu llyfrau plant i’r Gymraeg y llynedd, y mae bellach yn awyddus i gyhoeddi ei waith ei hun ar gyfer plant a phobl ifanc.
Daw’n wreiddiol o Ben Llŷn, ond erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu.
Twitter: @LlanwMawrHallt
Beverley Jones
Ganed Beverley Jones (B.E. Jones) yng Nghwm Rhondda a dechreuodd ei ymddiddan ym myd straeon ditectif fel gohebydd gyda The Western Mail cyn symud i newyddion teledu gyda BBC Wales Today.
Bu’n ymwneud â phob agwedd o ohebu ar droseddau cyn newid ac ymgymryd â rôl swyddog y wasg i Heddlu De Cymru, gan ymdrin â’r wasg mewn ymchwiliadau troseddol, gweithgareddau diogelwch a chynllunio argyfwng.
Bellach yn awdur llawrydd, mae’n defnyddio’r profiadau hyn o droseddau go iawn, ei gyfuno gydag ochr dywyll y natur ddynol, ac yn cyfuno’r ddau i greu straeon ditectif seicolegol tywyll wedi eu lleoli ar draws de Cymru.
Mae Halfway, i’w gyhoeddi yn 2018, yn dilyn Where She Went a gyhoeddwyd gan Constable yn 2017.
bevjoneswriting.co.uk
Twitter: @bevjoneswriting
Joanna Jones
Bu Joanna Jones yn gweithio gefn llwyfan ym myd y theatr, yn astudio gradd BA mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn cynorthwyo mewn digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol cyn gweithio fel llyfrwerthwr ac astudio am radd meistr yn Aberystwyth.
Wedi ei geni yn ne Cymru, mae Joanna wedi byw, gweithio ac astudio yn New Mexico, Y Ffindir a Bolivia. Mae ei barddoniaeth wedi ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Popshot, Galeri Aval-Ballan, a blodeugerdd Sisters Lost, Sisters Found. Cafodd ei henwebu ar gyfer y Forward Prize am gerdd unigol yn 2014.
Mae Joanna yn gobeithio defnyddio’r Ysgoloriaeth i weithio ar ei nofel gyntaf: stori dditectif i bobl ifanc wedi’i osod yn y 90au, ar ynys ddychmygol tebyg i Orkney.
Twitter: @mojanna_elise
Cynan Jones
Ganed Cynan Jones ger Aberaeron yn 1975. Mae ei nofelau yn cynnwys Cove (Granta); The Long Dry (Granta), enillydd y Betty Trask Award 2017; Everything I Found on the Beach (Granta); Bird, Blood, Snow (Seren), fersiwn newydd o chwedl Gymraeg; a The Dig (Granta), ennillydd y Jerwood Fiction Uncovered Award 2014 a chategori ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2015.
Cafodd pennod o The Dig ei gosod ar restr fer y Sunday Times / EFG Short Story Award 2013, ac ym mis Hydref 2017, enillodd Cynan y BBC National Short Story Award am ei ddarn The Edge of the Shoal, wedi ei gyhoeddi yn wreiddiol yn The New Yorker.
Caiff Three Tales, cyfrol o straeon plant, ei gyhoeddi gan Gomer yn 2018.
Cynanjones.com
Twitter: @cynan1975
Stephanie Mahon
Mae Stephanie Mahon yn newyddiadurwr sy’n ymddiddori mewn themâu cynaladwyedd, tirlun a’r amgylchedd. Dechreuodd ysgrifennu yn broffesiynol yn 17 mlwydd oed ac mae wedi ennill gwobrau lu am ei gwaith.
Gadawodd Iwerddon, ei mamwlad, yn 2005 i gynnal encilion darllen mewn hen gastell yn Yr Eidal, cyn symud i Gaerdydd 10 mlynedd yn ôl. Bellach mae’n byw yn Nyffryn Gwy ac yn gweithio fel golygydd cylchgronau ac awdur llawrydd ar gyfer cyhoeddiadau megis The Telegraph, The Guardian a The Sunday Times.
Llwyfannwyd un o’i dramâu byrion yn Theatr Sherman Cymru, ond mae’r Ysgoloriaeth hon yn cefnogi ei chynnig cyntaf o fentro i fyd ffuglen.
Twitter: @Hortihack
Hayley Mills
Newyddiadurwr o Sully ger Y Barri yw Hayley Mills ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda BA mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a’r Cyfryngau.
Wedi chwe blynedd hapus fel newyddiadurwr print gyda The South Wales Argus yng Nghasnewydd, mae bellach yn gweithio fel ymchwilydd gyda’r BBC.
Dechreuodd ysgrifennu ei nofel gyntaf yn ei hamser sbâr. Bydd yr Ysgoloriaeth yn ei galluogi i gwblhau ei nofel i bobl ifanc.
Twitter: @HMillsJourno
Rufus Mufasa
Mae Rufus Mufasa yn weithredydd llenyddol ac artist cyfranogol arloesol. Mae’n hyrwyddo addysg hip hop a datblygiad barddoniaeth sy’n agored i bawb. Yn ddiweddar bu’n perfformio yng Ngŵyl Llenyddiaeth Helsinki. Mae Rufus yn rapiwr, perfformiwr ac ysgrifennwr gydag MA mewn sgriptio. Lansiodd ei halbwm unigol Fur Coats From The Lion’s Den yn 2017, albwm a nodwyd yn uchafbwynt diwylliannol gan Wales Arts Review a’i ddewis fel albwm gorau’r flwyddyn. Cafodd ei thrac, Daughters of Dylan, ei ddewis fel rhan o restr chwarae Adam Walton Best of 2017.
Pontypridd yw cartref Rufus, gyda’i phartner Jamey P a’u dwy o ferched. Rhwng bod yn fam a gweithredu addysg amgen, mae hi’n gynyddol actif yn sîn hip hop, y sîn Gymraeg a’r sîn perfformio (Enillydd Slam Barddoniaeth Abertawe 2017 / Rhestr Hir Outspoken London 2017 / Rhestr Hr Poetry Rivals 2016). Mae Rufus wrthi’n datblygu barddoniaeth a rhyddiaith ac wedi ysgrifennu sioe gerdd yn y Gymraeg, a ddangoswyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth mewn partneriaeth â Leeway Productions.
Mae Rufus wedi bod yn cydweithio gydag Avant Cymru a’r artist Ameilia Unity Thomas er mwyn dyfeisio prosiectau theatr Landmarks ac Operation Sisterhood.
Twitter: @rufusmufasa
Katie Munnik
Awdur o Ganada yn byw yng Nghaerdydd yw Katie Munnik. Enillodd ei nofel gyntaf, The Heart Beats in Secret, y Borough Press Open Submission Competition, ac fe’i cyhoeddir yng ngwanwyn 2019.
Cyhoeddwyd ei chasgliad o ffuglen fer, The Pieces We Keep, gan Wild Goose Publications ac mae ei rhyddiaith, barddoniaeth, ffuglen-greadigol ac adolygiadau wedi ymddangos mewn nifer o gylchgronau ac antholegau gan gynnwys The Cardiff Review, The Dangerous Women Projet, Echoes of the City, The Welsh Agenda a Geez Magazine.
Graddiodd o’r Humber School for Writers yn Toronto, Canada.
Twitter: @messy_table
Siôn Tomos Owen
Ganed Siôn Tomos Owen yn Nhreorci yng Nghwm Rhondda. Aeth i Ysgol Gynradd Ynyswen ac Ysgol Gyfun Cymer cyn astudio darlunio yn GCADT, Trefforest ac yna i ddarllen Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.
Roedd gan Siôn dros 50 o swyddi ond mae bellach wedi bodloni ar tua phump: Ysgrifennu, darlunio, cynnal gweithdai creadigol, creu ffilmiau byr a chyflwyno rhaglenni teledu gan gynnwys dwy gyfres o Pobol y Rhondda ar S4C.
Cafodd ei lyfr cyntaf, Cawl, sef casgliad o gerddi, straeon byrion, traethodau, cartwnau a chomics, ei gyhoeddi gan Parthian yn 2017. Mae Siôn yn byw yn Nhreorci gyda’i wraig a’i ferch.
Twitter: @Sionmun
Jemima Roberts
Mae Jemima Roberts yn awdur a bardd sy’n hanu o Ystâd Hafod yng nghanolbarth Cymru. Mae’n ysgrifennu ers ei harddegau cynnar, ac yn 2009 cafodd ei dewis i gymryd rhan yng nghwrs barddoniaeth Faber & Faber. Ers hynny, mae wedi perfformio ei gwaith ar draws y byd – ar dir a môr.
Wrth fagu ei mab dros y 5 mlynedd diwethaf prin oedd y cyfleoedd i ymarfer ei chrefft, er ei bod hi’n ysgrifennu bob hyn a hyn pan fo’r cyfle’n codi. Bydd 2018 yn gyfle newydd iddi atgyfodi ei chrefft.
Ynghyd â chyfrifoldebau eraill, bydd Jemima yn ymgymryd â phreswyliad yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Thatjemimaroberts.wordpress.com
Twitter: @jemima_roberts
Durre Shahwar
Mae Durre Shahwar yn awdur, ymarferydd creadigol, Golygydd Cysylltiol Wales Arts Review ac yn Word Factory Apprentice 2017. Astudiodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Hi yw un o sylfaenwyr ‘Where I’m Coming From’, sef nosweithiau meic agored sy’n hyrwyddo ysgrifennu ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yng Nghymru. Mae’n ysgrifennu ffuglen a gwaith ffeithiol-greadigol ar themâu eang gan gynnwys hil, hunaniaeth, rhywedd ac iechyd meddwl.
Mae gwaith Durre wedi ei gyhoeddi mewn nifer o gylchgronau a blodeugerddi, gan gynnwys Know Your Place: Essays on the Working Class (2017, Dead Ink Books). The Lonely Crowd, Cheval 10 (Terry Hetherington Young Writers Award 2017) ac yn The Stockholm Review of Literature.
Durreshahwar.com
Twitter: @Durre_Shahwar
Christina Thatcher
Mae Christina Thatcher yn athro rhan-amser ac yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio sut y gall ysgrifennu creadigol gyfoethogi bywydau pobl sydd wedi colli rhywun o ganlyniad i ddibyniaeth. Yn ei hamser sbâr, mae Christina yn brysur fel Golygydd Barddoniaeth ar gyfer The Cardiff Review ac yn gweithio’n llawrydd fel hyrwyddwr gweithdai a chydlynydd gwyliau.
Mae ei barddoniaeth a’i straeon byrion wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys The London Magazine, Planet Magazine, a The Interpreter’s House, ymhlith eraill.
Cafodd ei chasgliad cyntaf, More than you were, ei osod ar restr fer y Bare Fiction Debut Poetry Collection Competition 2015 a’i gyhoeddi gan Parthian Books yn 2017.
Christinathatcher.com
Twitter: @writetoempower
Louise Walsh
Mae Louise Walsh yn nofelydd ac yn gyn focsiwr amatur. Roedd ei nofel gyntaf, Fighting Pretty (Seren Books) yn ymwneud â’i gwybodaeth a’i dealltwriaeth o fyd bocsio amatur yng Nghymru.
Cafodd ei hail nofel, Black River (Gwasg Carreg Gwalch) ei ysbrydoli gan ei hymchwil i ymyrraeth y wasg yn Aberfan yn dilyn trychineb 1966.
Mae Louise yn byw yng Nghaerdydd ac wrthi’n ysgrifennu ei thrydedd nofel. Bydd Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru yn ei galluogi i ymchwilio a datblygu’r nofel hon sydd wedi ei lleoli yng nghysgod streic y glowyr 1984.
Twitter: @LouJaneWalsh1
Elizabeth Wilson
Mae Elizabeth Wilson yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Wedi graddio yn y Dyniaethau o’r Brifysgol Agored, mae’n ymroi ei hamser i hybu astudio addysg uwch drwy astudiaethau rhan-amser.
Cafodd gefnogaeth yr Open University Crowther Fund er mwyn cwblhau PhD mewn Llenyddiaeth Ol-Drefidigaethol, gan arbenigo mewn barddoniaeth angloffôn y Caribî.
Cwblhaodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2013 fu’n ysbrydoliaeth iddi ysgrifennu barddoniaeth yn hytrach na’i astudio. Bydd yn defnyddio’r Ysgoloriaeth i ddatblygu ei chasgliad cyflawn cyntaf. Mae Elizabeth yn byw ar arfordir Sir Benfro.