Trwy sicrhau cynrychiolaeth deg ar draws ein gweithgareddau a’n strwythurau mewnol, rydym yn darparu llwyfannau ac anogaeth i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli, a thrwy hynny’n meithrin diwylliant llenyddol sy’n adlewyrchu’r Gymru gyfoes.
Cip ar weithgaredd: Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli
Mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-22 yn nodi bod Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn un o brif flaenoriaethau tactegol Llenyddiaeth Cymru. Rydym yn ceisio mynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y sector ac mae rhoi cefnogaeth i egin awduron yn ganolbwynt i’n gwaith dros y tair blynedd nesaf.
Ym Mehefin 2019, fe gyhoeddon ni ein cynllun nawdd peilot Cynrychioli Pawb sy’n cynnig grantiau rhwng £50 a £1000 ar gyfer cyfle datblygu proffesiynol cysylltiedig â llenyddiaeth. Nod y cynllun yw annog awduron o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac awduron sydd ag anabledd neu salwch (meddyliol neu gorfforol) a gaiff eu tangynrychioli i ddatblygu eu potensial proffesiynol ac artistig a chreu cyfleoedd fyddai’n rhoi hwb i’w gyrfa.
Yn Tachwedd 2019, derbyniodd 8 awdur llwyddiannus nawdd ar gyfer gweithgaredd datblygiad proffesiynol wrth dderbyn cefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru. Bydd ein nawdd yn galluogi’r unigolion talentog yma i gysgodi awduron, ymgymryd ag ymchwil, i gynnal grŵpiau ffocws a darparu gweithdai yn y gymuned. Mae hyn yn ehangu eu sgiliau a’u gwybodaeth ac mewn rhai achosion yn cyfrannu at ddatblygu eu gwaith.
Dywedodd 100% o’r ymgeiswyr eu bod yn rhagweld heriau wrth geisio dilyn gyrfa fel awdur/artist o gefndir sydd wedi ei dangynrychioli yng Nghymru.
Ac yntau’n awdur ffuglen trosedd ar ddechrau’i yrfa, bydd Anirban yn defnyddio cyllid Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli i wella’i wybodaeth am y genre.
Bydd Anirban yn cynnal 10 sesiwn lenyddol a gweithdai gyda grŵp ffocws o 15 o ddarllenwyr, awduron a phobl sy’n frwd dros lenyddiaeth yng Nghymru, a’r rheini o gefndiroedd cymdeithasol a galwedigaethol amrywiol. Drwy’r trafodaethau hyn, nod Anirban yw deall diddordebau darllenwyr y genre ar raddfa eang.
Bydd Anirban wedyn yn cael ei fentora gan Mr Gunjan Dasgupta, awdur trosedd o India, sydd wedi ysgrifennu mewn ffurfiau gwahanol ac i ddarllenwyr Indiaidd a phobl nad ydynt o India. Bydd hyn yn fodd iddo edrych ar arddulliau ysgrifennu amrywiol o dan adain awdur arbenigol sydd wedi ennill ei blwyf. Bydd hefyd yn bresennol mewn sgwrs gyda’r awduron a’r newyddiadurwyr llwyddiannus, Duncan Campbell a Joanna Jolly, a fydd yn trafod ysgrifennu am droseddau go iawn er mwyn deall eu technegau ysgrifennu a rhwydweithio â’r gynulleidfa.
I wella’i dechneg gyffredinol, ac i baratoi portffolio ysgrifennu, bydd Anirban yn cynnal cyfres o weithdai Ysgrifennu Ffuglen Trosedd er mwyn ei helpu â’i ddatblygiad yn y dyfodol.
“Bydd y prosiect hwn yn rhoi imi wybodaeth a dealltwriaeth o ffuglen trosedd o safbwynt awdur. Bydd yn gymorth i ddeall meddyliau a disgwyliadau darllenwyr, a’r gwaith caib a rhaw sy’n gallu hawlio sylw darllenwyr.”
Anirban Mukhophadyay
Darganfyddwch fwy am Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli yma.