Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli
Cynllun nawdd newydd sbon i awduron sy’n byw yng Nghymru ac sydd o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig neu sydd ag anabledd neu salwch.
Mae Cynrychioli Pawb yn gynllun nawdd peilot sy’n cynnig grantiau rhwng £50 a £1000 ar gyfer cyfle datblygu proffesiynol cysylltiedig â llenyddiaeth. Nod y cynllun yw annog awduron o gefndiroedd a gaiff eu tangynrychioli i ddatblygu eu potensial proffesiynol ac artistig a chreu cyfleoedd fyddai’n rhoi hwb i’w gyrfa.
Mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-22 yn nodi bod Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn un o brif flaenoriaethau tactegol Llenyddiaeth Cymru. Rydym yn credu y dylai pob unigolyn, waeth beth fo’u cefndir, deimlo y caent eu cynnwys a bod ganddynt ryddid i lywio, cyfrannu at a theimlo perchnogaeth dros y byd llenyddiaeth yng Nghymru.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:
“Mae gan lenyddiaeth wreiddiau dwfn yn y cysyniad o ryddid mynegiant. Serch hynny, mae gwir ryddid yn ddibynnol ar gydraddoldeb cyfleoedd a chynrychiolaeth deg. Trwy weithio gyda phartneriaid, byddwn yn gwneud mwy i feithrin amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn y sector lenyddol. Dylai awduron Cymru gynnwys ystod o oedrannau, o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd, ethnigedd, rhyw, ardaloedd ac ieithoedd. Nid cau unrhyw un allan yw’r bwriad yma, ond yn hytrach greu cyfleoedd teg a chyfartal, a sicrhau fod datblygiad proffesiynol ac arloesedd celfyddydol ar gael i bawb.”
Prosiectau 2019-2020
Mae 8 awdur llwyddiannus wedi derbyn nawdd ar gyfer gweithgaredd datblygiad proffesiynol. Darllenwch ragor am eu prosiectau isod, a gallwch ddal i fyny gydag unrhyw ddiweddariadau trwy ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instagram.