Wrth wraidd Llenyddiaeth Cymru mae ein tîm o staff, ac rydym yn dibynnu arnynt i gyflawni amcanion a blaenoriaethau’r Cynllun Strategol 2022-27 yn effeithiol. Mae iechyd a llesiant ein tîm yn bwysig i ni ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnal diwylliant iach, cefnogol a chynhwysol, sydd hefyd yn adlewyrchu gwir natur cymunedau cyfoethog ac amrywiol Cymru.
Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn sefydliad cynhwysol ac rydym wedi ymrwymo i groesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rydym yn asesu ceisiadau ar gryfder potensial a byddwn yn gweithredu’n gadarnhaol drwy warantu cyfweliad i bob ymgeisydd sy’n cwrdd â gofynion addasrwydd y rôl, ac sy’n adnabod yn ei llythyr cais eu bod heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddol. Ein nod yw datblygu llenyddiaeth fel ffurf ar gelfyddyd sy’n gynrychioliadol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Credwn mai’r ffordd orau o gyflawni’r nod hwnnw yw creu gweithlu amrywiol gyda phrofiadau bywyd amrywiol.
Wrth recriwtio, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy’n uniaethu ag un neu fwy o’r datganiadau canlynol:
- Rwy’n perthyn i gymuned neu grŵp ethnig sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector lenyddiaeth ar hyn o bryd.
- Rwy’n anabl neu yn dioddef o salwch hir dymor.
- Rwy’n dod o gefndir incwm isel.
Fel sefydliad dwyieithog, ble mae mwyafrif ein staff yn siarad Cymraeg, mae agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg gan bawb. Rydym yn darparu cymorth i gydweithwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn eu rolau, ac mae aelodau’r tîm sy’n siarad Cymraeg bob amser yn hapus i gefnogi dysgwyr ar bob lefel i fwynhau darganfod yr iaith.
Wrth recriwtio rydym yn agored i glywed gan ymgeiswyr a hoffai drafod unrhyw hyblygrwydd ar gyfer y rôl megis rhannu swydd/rhan-amser/gweithio hyblyg nu hybrid a chyfnod y cytundeb.