Dewislen
English
Cysylltwch

Cyflwyniad

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.
Mae’r cynllun hwn yn cyflwyno ein huchelgais o greu Cymru lle mae llenyddiaeth yn cynrychioli ein lleisiau amrywiol, yn gefn i’n llesiant, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd.
Yn y fideo canlynol, mae cynrychiolwyr o’n tîm o staff a Chyfarwyddwyr yn cyflwyno ein strategaeth newydd, ac yn esbonio sut y byddwn yn gweithio tuag at wireddu ein gweledigaeth dros y tair blynedd nesaf.

 

 

Ein Nodau

Drwy lenyddiaeth, rydyn ni’n helpu i lywio a gwella ein cymdeithas, ein heconomi, a’n diwylliant. Rydym yn gwneud hyn oherwydd fod gan lenyddiaeth, yn ei amryw ffurfiau, y grym i gysylltu cymunedau a rhoi cysur, ysbrydoliaeth a gobaith i’r rhai sydd wir angen hynny.
Ar sail ein dealltwriaeth ni o rym llenyddiaeth i weddnewid a gwella bywydau, rydyn ni wedi dewis nodau sy’n adlewyrchu ein huchelgais a’n dyheadau i Gymru. Mae’r rhain yn cyd-fynd â Saith Nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i sicrhau bod popeth a wnawn yn helpu i gyflawni un neu ragor o’r nodau hyn.
Mae ein nodau wedi’u rhannu’n dri chategori: ein Blaenoriaethau, ein Mathau o Weithgarwch, ac ein Sylfaen.

Ein Blaenoriaethau

Rydym wedi dewis tair blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt ac i fuddsoddi ynddynt, sy’n ceisio ysgogi newid mewn cymdeithas drwy lenyddiaeth.

 

Pa ffordd well i gyflwyno’r blaenoriaethau hyn, na thrwy eiriau rhai o’r awduron sy’n cyflawni ein gweithgareddau, a rhai lle mae’r blaenoriaethau hyn wedi eu gwreiddio yn eu gwaith creadigol ac ymarferol.

 

 

Mathau o Weithgarwch

Byddwn yn cyflawni ein tair blaenoriaeth trwy ein mathau o weithgarwch, a dyma sut y byddwn ni’n creu cymdeithas lenyddol fyrlymus.

 

 

 

Eisiau darganfod mwy?