Craig Austin
MwyEric Ngalle Charles
MwyCathryn Charnell-White
MwyJacob Dafydd Ellis
MwyAnnie Finlayson
MwyNatalie Jerome
MwyRadhika Mohanram
MwyJohn O'Shea
MwyDelyth Roberts
MwyCathryn Summerhayes
MwyOwain Taylor-Shaw
MwyChristina Thatcher
MwyKate North
Mae Kate North yn awdur ac yn academydd. Mae wedi ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth. Ei chasgliad diweddaraf yw The Way Out (Parthian, 2018). Mae ganddi ddiddordeb mewn ysgrifennu ymarferol mewn gofal iechyd ac amgylcheddau cymunedol. Mae hi'n darlithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd lle mae’n rhedeg rhaglenni MA Dyniaethau.
Elizabeth George
Mae Elizabeth George yn Bennaeth Busnes a Datblygu GISDA, elusen sydd yn darparu llety a chefnogaeth i bobl ifanc bregus yng Ngwynedd. Mae ganddi radd yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth ac mae ganddi brofiad helaeth o wirfoddoli a llywodraethu ym myd y celfyddydau yng Ngymru yn cynnwys Neuadd Goffa Cricieth, Gŵyl Cricieth, OPRA Cymru ac Ymddiriedolaeth Amgueddfa Lloyd George.
Craig Austin
Mae Craig Austin yn awdur a beirniad celfyddydol sy’n byw yn Llundain, ac yn olygydd Wales Arts Review. Cyhoeddwyd ei waith, ffuglen a ffeithiol, mewn nifer o gyhoeddiadau cenedlaethol. Y mae Craig hefyd yn brofiadol iawn mewn Adnoddau Dynol proffesiynol, gydag arbenigedd swyddogaethol mewn cysylltiadau diwydiannol a chyfraith cyflogaeth ar draws ystod eang o sectorau a chwmnïau mawr.
Eric Ngalle Charles
Mae Eric Ngalle Charles yn fardd, dramodydd ac awdur, yn wreiddiol o Buea yng Nghamerŵn. Y mae’n rhedeg Black Entertainment Wales, sefydliad celfyddydol sydd yn cynnig llwyfan i artistiaid o gymunedau BME i arddangos eu gwaith. Yn ei waith, mae’n ymchwilio’r cysylltiad rhwng llenyddiaeth a thrawma er mwyn edrych ar sut mae creadigrwydd yn gallu cael ei ddefnyddio fel modd o oresgyn trawma.
Cathryn Charnell-White
Cathryn Charnell-White yw Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar hunaniaeth Gymreig, merched a barddoniaeth, a llenyddiaeth y tywydd yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar. Mae Cathryn yn aelod o Gyngor, Cyngor Llyfrau Cymru yn ogystal â bod yn gyd-olygydd Clasuron Cymraeg Honno. Roedd Cathryn hefyd yn aelod o Banel Beirniadu Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019.
Jacob Dafydd Ellis
Jacob Ellis yw Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru. Mae'n gyn-newyddiadurwr BBC Cymru Wales ac mae wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau diwylliannol ac addysgol. Mae Jacob wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac yn Ymddiriedolwr yng Nghyngor Trydydd Sector Caerdydd.
Annie Finlayson
Cyn ymuno â Chyllid Corfforaethol Gambit fel Partner yn 2016, roedd Annie Finlayson yn Gyfarwyddwr Datblygu Corfforaethol i raglen uno, caffael a chyfarwyddo Grŵp PHS. Yn 2012, cafodd Annie ei enwi yn Insider Dealmaker of the Year yng Nghymru, y ddynes gyntaf a'r cynghorydd mewnol cyntaf i ennill y wobr. Mae hi hefyd wedi cael ei chydnabod gan Leading Wales Award Programme a gwobrau Welsh Woman of the Year.
Natalie Jerome
Cafodd Natalie ei geni a’i magu yng Nghasnewydd ac erbyn hyn mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad fel Cyhoeddwr ac wedi gweithio i rai o gyhoeddwyr amlycaf y DU gan gynnwys Penguin Random House, Pan Macmillan, Bonnier Books a HarperCollins. Cafodd Natalie ei chynnwys yng nghylchgrawn The Bookseller’s Industry top 100 ble’i disgrifiwyd fel ‘dewin cyhoeddi brand’ ar ôl caffael a chyhoeddi llyfrau sydd wedi gwerthu dros 6 miliwn o gopïau a chynhyrchu dros £30m o refeniw yn ystod ei gyrfa. Mae Natalie yn arbenigwr mewn llenyddiaeth ffeithiol gyda ffocws penodol ar adloniant a ffordd o fyw.
Fel un o'r ychydig olygyddion o gefndir BAME yn y DU, mae Natalie wedi gweithio i wella amrywiaeth yn y diwydiant cyhoeddi. Mae hi'n un o sefydlwyr, ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Creative Access, cynllun mentora a hyfforddiant i raddedigion o gefndir BAME sy'n chwilio am brofiad gwaith â thâl ar draws y diwydiannau creadigol a’r cyfryngau. Yn 2016 canmolwyd Natalie am ei gwaith gyda’r National Business yn y Community Race Equality Awards.
Radhika Mohanram
Mae Radhika Mohanram yn dysgu yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd fel Athro mewn Saesneg. Mae hi’n arbenigo mewn astudiaethau ôl-drefedigaethol, astudiaethau rhywedd, astudiaethau diwylliannol a Ffuglen De Asia. Yn y blynyddoedd diweddar, y mae hi wedi cyhoeddi erthyglau neu fonograffau ar hil, gwynder, a rheolaeth ymerodrol ym Mhrydain. Ar hyn o bryd, y mae hi’n ymchwilio y rhaniad yn Yr India, 1947 a’i effaith ar greu Yr India cyfoes.
John O'Shea
Astudiodd John O’Shea wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a bu'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol cyn ei benodiad diweddaraf yn Brifathro Coleg Merthyr Tudful. Mae John yn dod â phrofiad ym maes llywodraethu elusennau i’r Bwrdd yn ogystal â brwdfrydedd dros alluogi holl bobl Cymru waeth beth yw eu cefndir, eu haddysg neu eu rhagolygon i ffynnu a datblygu eu creadigrwydd Mae John yn Gadeirydd Grow Enterprise Wales, aelod o'r Royal Shakespeare Company a Chapter, ac yn angerddol dros oresgyn amddifadedd.
Delyth Roberts
Yn enedigol o Roslan yn Eifionydd, y mae Delyth Roberts newydd ymddeol o'i swydd fel Rheolwr Maes Rhaglen Addysg Gyffredinol gyda chyfrifoldeb am Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Grŵp Llandrillo Menai. Bu'n dysgu Cymraeg Lefel A ar safle Pwllheli er 1997 a chyn hynny mewn ysgolion uwchradd yng Ngwynedd. Bu'n asesydd cymheiriaid i ESTYN ac yn Uwch Arholwr Cymraeg Safon Uwch i CBAC. Mae'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth Park- Jones ac yn ymddiddori ym myd llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama.
Cathryn Summerhayes
Ail-ymunodd Cathryn Summerhayes â Curtis Brown ym Medi 2016, wedi iddi gychwyn ei gyrfa asiantaeth lenyddol gyda’r cwmni fel intern yn 2004. Sefydlodd restr eclectig o gleientiaid yn ystod ei hamser yn WME, lle y bu’n gweithio am ddeng mlynedd. Cyn hynny, bu’n gweithio mewn amryw o asiantaethau llenyddol Prydeinig eraill, ac yn Colman Getty PR – lle bu hi’n gweithio ar nifer o ddigwyddiadau llenyddol proffil uchel fel y Man Booker Prize a’r Samuel Johnson Prize.
Mae hi hefyd yn gweithio yn swyddfa gynhyrchu’r Port Eliot Literary Festival, ac yn weithgar yng ngwyliau rhyngwladol Hay a Chaeredin. Cafodd ei henwi ar restr fer y British Book Awards’ Agent of the Year yn 2016, ac mae ei chleientiaid yn cynnwys Dr Adam Kay, Mark Watson, Naomi Wood, Kirsty Logan, Susan Fletcher, Johanna Basford, Sir Ranulph Fiennes, Lucy Foley, Polpo’s Russell Norman, Mark Hix and Clemmie Hooper.
Owain Taylor-Shaw
Magwyd Owain Taylor-Shaw ym Mhen Llŷn cyn iddo symud i Gaerdydd i astudio Rheolaeth Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Owain wedi cael profiad eang o weithio ym meysydd celfyddydol, diwylliannol, y cyfryngau a'r trydydd sector. Bellach mae’n rheoli adran Datblygu Busnes, Canolfan Mileniwm Cymru, gan arwain ar bartneriaethau strategol, cynyddu incwm masnachol, cynyddu masnach ED a datblygu cynnyrch newydd.
Christina Thatcher
Mae Christina Thatcher yn awdur ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ei hymchwil diweddar yn canolbwyntio ar sut all ysgrifennu creadigol gael effaith llesol ar fywydau’r rheini sydd wedi profi profedigaeth o ganlyniad i gaethiwed. Christina yw Golygydd Barddoniaeth y Cardiff Review, mae hi hefyd yn hwylusydd gweithdai llawrydd. Mae ei barddoniaeth a straeon byrion eisoes wedi cyhoeddi mewn 40 o gyhoeddiadau yn cynnwys The London Magazine, Planet Magazine a The Interpreter’s House. Cafodd ei chasgliad cyntaf, More than you were, ei gynnwys ar restr fer Bare Fiction's Debut Poetry Collection Competition yn 2015 a’i gyhoeddi gan Parthian yn 2017.