Dewislen
English
Cysylltwch
Alix Edwards
Mwy
Greg Glover
Mwy
Bethany Handley
Mwy
Caitlin Tina Jones
Mwy
Fran Kirchholtes
Mwy
Grace Quantock
Mwy
Satterday Shaw
Mwy
Rhys Miles Thomas
Mwy
David Thorpe
Mwy
Sara Louise Wheeler
Mwy
Alix Edwards

Cenhadaeth Alix Edwards yw ysbrydoli a grymuso eraill i ddefnyddio eu creadigrwydd i ganfod eu llais. Mae celf Alix yn adrodd straeon am fenywod, yn enwedig rhai sydd wedi’u diystyru neu eu hanwybyddu o fewn cymdeithas. Yn aml yn ei gwaith, mae merched cyffredin yn ymddwyn mewn ffyrdd annisgwyl. Yn 2019 derbyniodd Alix fwrsariaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i archwilio Golchdai Magdalene yng Nghymru. Yn oroeswr trais yn y cartref, cymerodd ran yn Cynrychioli Cymru 2022-23 ac ysgrifennodd bamffled barddoniaeth sydd yn herio rhagdybiaethau am gam-drin domestig. Yn 2018 sefydlodd gyfres o ddigwyddiadau Company of Words i annog y rhai oedd yn newydd i ysgrifennu i berfformio eu gwaith. Mae ei cherddi wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau lu gan gynnwys Marble Magazine, Penny Thoughts, Cardiff Review a Poetry Wales. Mae'n gweithio ar nofel i bobl ifanc wedi'i leoli yng Nghaerdydd a ffilm gyffro a ysbrydolwyd gan ddiflaniad merched yn eu harddegau ar y ffin â Mecsico.

Cau
Greg Glover

Mae Greg Glover (ef) yn ddramodydd arobryn o Gasnewydd. Mae ei waith wedi'i berfformio mewn nifer o theatrau, o'r Bristol Old Vic i Theatr 503. Prif ganolbwynt ei waith ysgrifennu yw sicrhau lle i bobl anabl mewn diwylliant poblogaidd trwy ail-ddychmygu bydoedd sy’n cynnwys unigolion ar yr ymylon yn hytrach na'u cau allan. Ar ôl creu ffilmiau byr ar gyfer y teledu mae bellach yn defnyddio'r profiad i helpu pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig i ganfod eu llais trwy ffilm. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae wedi ysgrifennu ar gyfer BBC Radio 4, Galwad, a Theatr Clwyd, yn ogystal â bod ar restr fer Gwobrau Agored Unlimited tra'n un o'r Sherman Unheard Voices.

Cau
Bethany Handley

Mae Bethany Handley (hi) yn awdur ac yn ymgyrchydd hawliau anabledd sydd yn byw ym Mhontypridd. Mae ei barddoniaeth wedi'i gyhoeddi yn POETRY, Poetry Wales, Institute of Welsh Affairs a'r Poetry Foundation, ymhlith cyhoeddiadau eraill. Roedd Bethany yn un o'r awduron ar raglen Lleisiau nas Clywir Theatr y Sherman, ac yn ddiweddar datblygodd encil ysgrifennu ar gyfer awduron ifanc Byddar ac Anabl gyda’r nofelydd Megan Angharad Hunter diolch i gomisiwn gan Lenyddiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Fel arfer mae gwaith Bethany yn archwilio ablaeth, hygyrchedd a'i pherthynas â natur fel menyw anabl. (Twitter- @Bethany1Handley).

Cau
Caitlin Tina Jones

Mae Caitlin Tina Jones yn fardd awtistig dosbarth gweithiol o Hengoed. Ar hyn o bryd mae hi’n gwneud BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei cherddi wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan gynnwys Propel a Lucent Dreaming, ymhlith eraill, ac wedi cael eu cydnabod mewn cystadlaethau gan Ilkley Literature Festival a Cúirt International Literature Festival. Cyn bo hir bydd ei gwaith yn cael ei gynnwys yn Blodeugerdd o Lenorion Anabl Cymreig.

Cau
Fran Kirchholtes

Mae Fran Kirchholtes (hi) yn awdur, rheolwr llwyfan a chyfieithydd sy'n byw yn Sir Fynwy. Wedi’i geni a’i magu yn yr Almaen, symudodd i Gaerdydd ar ôl graddio o Brifysgol Heidelberg gyda BA mewn Saesneg ac Astudiaethau Cerddoriaeth. Yno, cwblhaodd MA mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau. Mae hi wedi bod yn darllen ac ysgrifennu straeon ers pan oedd hi'n fach, gan gymryd dosbarthiadau ysgrifennu a gweithdai tra yn y Brifysgol ac mae rhywfaint o'i gwaith wedi cael ei lwyfannu. Ers cael diagnosis o awtistiaeth yn ei ugeiniau hwyr, mae hi wedi dechrau canfod ei llais trwy glywed pobl eraill yn perfformio ei geiriau. Wrth ysgrifennu ffuglen a dramâu, mae'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o wahanol ddarluniadau o niwroamrywiaeth mewn merched.

Cau
Grace Quantock

Mae Grace Quantock (hi) yn gynghorydd ac awdur seicotherapiwtig sy'n byw yng nghymoedd Cymru. Mae hi wedi’i chyhoeddi gan The Guardian, The New Statesman, The Welsh Agenda, Planet Magazine ac An Open Door, (Parthian, 2022). Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nan Shepherd a Gwobr Awduron ac Artistiaid Dosbarth Gweithiol. Yn 2022 enillodd Grace wobr Creative Breakthrough Curtis Brown, a cafodd ei mentora gan Cathy Rentzenbrink wrth weithio ar ei chofiant, Madomen Are My Ancestors. Mae hi'n ysgrifennu darnau ffeithiol greadigol sy’n croestorri rhwng celfyddydau creadigol, cyfiawnder cymdeithasol a chyrff ymylol.

Cau
Satterday Shaw

Mae Satterday Shaw yn ysgrifennu ffuglen ar gyfer oedolion ac oedolion ifanc. Pan yn ei harddegau, roedd yn dymuno bod yn rhywun arall am ddiwrnod, a gwna hynny drwy ysgrifennu. Mae ei straeon a’i herthyglau wedi’u cyhoeddi yn Mslexia, The London Magazine, Wasafiri , Blodeugerdd Gwobr Stori Fer Rhys Davies, Wales Arts Review a mannau eraill. Mae hi'n byw yn Eryri. Mae wedi dysgu yn y gorffennol gan gynnwys gweithdai ysgrifennu i oedolion (ee: myfyrwyr Ysgrifennu Creadigol, menywod â phroblemau iechyd meddwl hirdymor) a phobl ifanc yn eu harddegau (ee: pobl ifanc Roma). Mae hi wedi gweithio ym myd addysg gwrth-hiliaeth, fel gofalwr teulu, ac fel golygydd ffilm a fideo.

Cau
Rhys Miles Thomas

Mae Rhys Miles Thomas yn enedigol o Alma yn Sir Gâr, ond yn bellach yn byw yn y Bari ym Mro Morgannwg.

Mae wedi gweithio yn broffesiynol yn y byd creadigol ers dros ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi gweithio; fel actor theatr, teledu a ffilm gyda cwmnïau fel Theatr Clwyd, BBC, S4C, Film Four, a Hallmark, fel awdur dwyieithog yn ysgrifennu dramâu i'r theatr ac i’r teledu - gan gynnwys cyd sgwennu'r gyfres teledu - Y Tŷ ar gyfer S4C., fel cyfarwyddwr – i BBC / Ffilm Cymru / Gwaith a mwy gyda degawdau o bobl ifanc difreintiedig, cynhyrchu dramâu theatr Cymraeg a Saesneg ar hyd y wlad, ac fel dawnsiwr a choreograffydd ym Mhrydain, De Affrig, Lithuania Gogledd Iwerddon ac yn yr Almaen.

Mae’n Bennaeth yr Adran Ddigidol yn y cwmni hyfforddiant ‘Cyfle’ ac yn un o ymddiriedolwr y Theatr Genedlaethol.

Mae ganddo ddiddordeb mawr ar ran sut mae portreadu anabledd i gynulleidfaoedd o fewn diwylliant poblogaidd.

Cau
David Thorpe

Mae David Thorpe yn awdur comics Marvel a chafodd ei nofel arobryn i bobl ifanc, Hybrids ei galw’n “syfrdanol o glyfar” gan The Times. Cyd-sefydlodd y London Screenwriters Workshop. Symudodd i Gymru er mwyn medru ymroi ei egni i achub yr amgylchedd. Ers hynny mae wedi ysgrifennu dwsin o lyfrau a channoedd o erthyglau ar gynaliadwyedd. Mae ganddo barlys yr ymennydd, ac mae'n ymgyrchu dros hawliau pobl anabl.

Cau
Sara Louise Wheeler

Mae Dr Sara Louise Wheeler yn fardd, llenor ac yn artist llawrydd. Mae hi’n ysgrifennu’r colofnau ‘O’r Gororau’ i gylchgrawn Barddas a ‘Troi Cerrig’ i Golwg360; mae hi hefyd yn ‘Ddarllenydd’ i Fahmidan. Mae Sara yn gwneud gwaith ymgynghorol ar hygyrchedd ac mae'n rhan o nifer o grwpiau sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae hi’n Is-Gadeirydd pwyllgor Llên canolog Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn aelod o bwyllgor gwaith PEN Cymru. Mae Sara yn gweithio yng ngororau Gogledd-Ddwyrain Cymru, yn darparu gweithdai sy’n ymwneud â chreadigrwydd a llesiant. Enillodd Sara gystadleuaeth ‘Geiriau Creadigol’ (cyfrwng Cymraeg) DAC 2022 gyda’i cherdd ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’, ac mae hi eisoes wedi ei chyfieithu a’i gyhoeddi yn ei phamffled dwyieithog o farddoniaeth ‘Trawiad/ Seizure’. Cafodd ei gwaith celf ‘Tywod amser y clyw’ ei gynnwys yn arddangosfa Gwobr Celfyddydau DAC ‘Aildanio’.

Cau