Dewislen
English
Cysylltwch

Mererid Hopwood

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

CymraegEnglish , Sbaeneg ac Almaeneg

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur Tiwtor cwrs Tŷ Newydd Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyn Fardd Plant Cymru 

Bywgraffiad Cymraeg

Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n fardd Plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n-Og am ei nofel i blant, Miss Prydderch a’r Carped Hud (Gwasg Gomer) yn 2018. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer, 2015), wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n cydweithio â cherddorion yn cynnwys Karl Jenkins, Eric Jones, Gareth Glyn, Christopher Tin a Robat Arwyn ac yn cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, yn llywydd anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams, ac yn ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru. Mae Mererid yn Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.