Dewislen
English
Cysylltwch

Dr Ffion Jones

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

Plant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Awdur a darlunydd i blant yw Dr. Ffion Jones. Mae’n byw ar arfordir Abertawe gyda’i gŵr a’i dwy ferch hyfryd. Mae’n ysgrifennu llyfrau i helpu plant gyda problemau anodd megis pryder, bwlio, salwch difrifol a phrofedigaeth:  Emily is Being Bullied: What Can She Do? (Jessica Kinsley Publishers 2018; cyd-awdur gyda Helen Cowie a Harriet Tenenbaum),  A School for Everyone: Stories and Lesson Plans to Teach Inclusivity & Social Issues (JKP Medi 2021; cyd-awdur gyda Cowie a Tenenbaum), a Golden Flowers for Little Dragon, The Book Guild, Hydref 2021 (gydag addasiad Cymraeg – Blodau Aur Dreigyn) i annog trafodaeth agored gyda plant am eu profiadau a theimladau.

Mae hefyd yn cyd-gyfarwyddo, ysgrifennu ac arlunio y gyfres Nurse Ted sy’ni cefnogi plant sydd â rhiant gyda diagnosis o salwch difrifol megis canser.  Yn ddiweddar, sefydlodd Fly Me Stories, menter gymdeithasol sy’n gyrru straeon wedi eu personoli i blant difrifol wael mewn ysbytai, hosbisau neu yn eu cartref (www.flymestories.com). Yn ogystal ag ysgrifennu, mae wedi bod yn diwtor ysgrifennu creadigol ac Iechyd meddwl am rai blynyddoedd.  Gweithiodd ar Gomisiwn awduron Llenyddiaeth Cymru,  “Painting Pictures with words”, sef cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol ar lein wedi’u ysbrydoli gan gelf  ar gyfer cymuned  addysg gartref. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar grant National Lottery Arts Council England  yn canolbwyntio ar y profiad o golli  brawd neu chwaer.