Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Lena Jeanne

Casi Wyn

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenPerfformio BarddoniaethPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cyn Fardd Plant Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Casi Wyn oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Mae Casi yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt fel cantores a chyfansoddwraig o ardal Bangor. Mae ei chaneuon AderynDyffryn, ac Eryri yn cael eu chwarae’n gyson ar orsafoedd radio ledled Prydain. Mae Casi hefyd yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol a chylchgrawn Codi Pais, sydd yn annog lleisiau newydd ac amrywiol. Yn 2021 fe ryddhaodd lyfrau dwyieithog cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw. Dangoswyd ei ffilm fer gerddorol animeiddiedig Dawns y Ceirw ar S4C ar noswyl Nadolig 2020.

Mae Casi yn edrych ymlaen yn fawr at danio dychymyg plant a phobl ifanc Cymru drwy eiriau ac alawon. Mae dathlu amrywiaeth Cymru a phontio cymunedau drwy hud barddoniaeth yn flaenoriaeth ganddi, ac mae hi hefyd yn awyddus i wau’r thema byd natur drwy’r gwaith yn ystod ei chyfnod yn y rôl.

Yn ogystal ag ymweliadau ysgolion, bydd rhaglen weithgaredd Casi yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol, chyfrannu at Siarter Iaith Llywodraeth Cymru, a bydd yn cyfansoddi cerddi amrywiol i nodi digwyddiadau ac ymgyrchoedd o ddiddordeb i blant a phobl ifanc.