Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Claire Lloyd (2023)

Alix Edwards

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English , Spanish

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPerfformio BarddoniaethPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Derbynnydd Cynrychioli Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Alix Edwards yn artist aml-lwyfan, awdur a hwylusydd sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae Alix Edwards yn defnyddio ffotograffiaeth, paentiadau ar raddfa fawr a’r gair llafar i archwilio hanesion heb eu hadrodd, gwydnwch, colled a chywilydd. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Goldsmiths, Llundain ac MA mewn ffotograffiaeth o Central Saint Martin’s. Mae ei gwaith celf wedi cael ei arddangos yng Nghymru, Lloegr, Sbaen ac LA, ac mae ei barddoniaeth wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys Penny Thoughts, Poetry Wales, Marble Magazine, Haus Arrest a Cardiff Review.
Yn 2019, derbyniodd Alix fwrsariaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i archwilio golchdai Magdalen yng Nghymru. Yn oroeswr o drais domestig, cymerodd Alix ran yn Cynrychioli Cymru 2022-3 ac ysgrifennodd bamffled barddoniaeth sy’n herio rhagdybiaethau am gam-drin domestig gyda mentoriaeth gan Rhian Edwards. Yn 2018, sefydlodd ddigwyddiadau Cwmni Geiriau i annog y rhai sy’n newydd i ysgrifennu i berfformio eu gwaith. Ei chenhadaeth yw grymuso pobl drwy gysylltu â’u creadigrwydd, ac mae hi wedi rhedeg prosiectau celfyddydol gyda Byddin yr Iachawdwriaeth, Cymorth i Fenywod, FiLia a Chapsiwl Amser Treorci. Yn ystod ei phlentyndod roedd Alix yn ofalwr i’w thad ac yn ddiweddar, creodd gyfres o weithiau celf a cherddi gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i godi ymwybyddiaeth am niwropatheg ddiabetig. Mae hi’n gweithio ar nofel oedolion ifanc sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, a nofel gyffro am ddiflaniad merched yn eu harddegau ar ffin Mecsico. Mae hi wrth ei bodd yn cerdded yn droednoeth ar y tywod, nofio yn y môr, dawnsio i gerddoriaeth salsa a phobi cacennau siocled.
“Mae fy mhractis presennol yn edrych y tu hwnt i’r dioddefaint a’r straeon i greu ymdeimlad o obaith a rhyddid. Mae grymuso eraill drwy weithdai sy’n canolbwyntio ar les a chryfder mewnol yn rhan annatod o’m mhractis. Trwy fy ngwaith fy hun, rwy’n gwahodd eraill i chwilio am eiliadau bach o harddwch a dod o hyd i lonyddwch a chysur yn y gofod diogel a hudolus y mae creadigrwydd yn ei gynnig yn ein heiliadau anoddaf.”

www.curatorspace.com/artists/AlixEdwards
Instagram: artography_alixedwards
Twitter: artographyalix
FB @alixedwardsartography
FB @companyofwords