Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Lindsay Ashford

Lindsay Ashford

Lleoliad

Canolbarth Cymru

Iaith

English 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Lindsay Jayne Ashford yn awdur ffuglen poblogaidd y mae ei lyfrau wedi gwerthu mwy na thri chwarter miliwn o gopïau ledled y byd ac wedi’u cyfieithu i ddwsin o ieithoedd. Mae hi’n byw yn Borth, ger Aberystwyth.

Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, A Feather on the Water, gan Lake Union ar Awst 1 2022. Mae ei nofelau hanesyddol blaenorol yn cynnwys The House at Mermaid’s Cove, The Snow Gypsy, Whisper of the Moon Moth, The Color of Secrets, a The Woman on the Orient Express, sy’n cyfuno ffuglen â digwyddiadau go iawn o ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Dechreuodd Lindsay ei gyrfa fel nofelydd gyda chyfres trosedd gyfoes yn cynnwys y seicolegydd fforensig o Gymru, Megan Rhys. Symudodd i’r genre hanesyddol gyda The Mysterious Death of Miss Austen, a addaswyd ar gyfer BBC Radio 4.

Wedi’i magu yn Wolverhampton yn y Deyrnas Unedig, Lindsay oedd y ferch gyntaf i raddio o Goleg Queens’, Caergrawnt, yn ei hanes 550 mlynedd. Enillodd radd mewn troseddeg a bu’n ohebydd i’r BBC cyn dod yn newyddiadurwr llawrydd. Symudodd i Gymru yn 1997 ac ar hyn o bryd hi yw Cadeirydd Honno Gwasg Menywod Cymru.