Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Fran Kirchholtes

Fran Kirchholtes

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English , German

Ffurf

FfuglenPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Fran Kirchholtes (hi) yn awdur, rheolwr llwyfan a chyfieithydd sy’n byw yn Sir Fynwy. Wedi’i geni a’i magu yn yr Almaen, symudodd i Gaerdydd ar ôl graddio o Brifysgol Heidelberg gyda BA mewn Saesneg ac Astudiaethau Cerddoriaeth. Yno, cwblhaodd MA mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau. Mae hi wedi bod yn darllen ac ysgrifennu straeon ers pan oedd hi’n fach, gan gymryd dosbarthiadau ysgrifennu a gweithdai tra yn y Brifysgol ac mae rhywfaint o’i gwaith wedi cael ei lwyfannu. Ers cael diagnosis o awtistiaeth yn ei ugeiniau hwyr, mae hi wedi dechrau canfod ei llais trwy glywed pobl eraill yn perfformio ei geiriau. Wrth ysgrifennu ffuglen a dramâu, mae’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o wahanol ddarluniadau o niwroamrywiaeth mewn merched. Mae Fran yn aelod o garfan Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad, cydweithrediad rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru.