Dewislen
English
Cysylltwch

Paul Clifton

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethPerfformio Barddoniaeth 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Ganed Paul Clifton yn Crystal Palace, Llundain ym 1988, gan symud i Croydon yn blentyn ifanc tan yn ei arddegau pan benderfynodd ei deulu symud ac ymgartrefu yn Wrecsam, Gogledd Cymru yn 2001. Wrecsam yw ei ddinas leol ers hynny ac mae’n cyfeirio’n aml at Wrecsam, fel y lle y mae’n ei alw adref a lle mae ei galon yn perthyn.

Awdur a bardd yw Paul. Mae ei lyfrau wedi derbyn canmoliaeth gan feirdd, awduron a llenorion o fri ar ei sgiliau ysgrifennu. Mae Paul yn fardd llawn dychymyg ac uchelgeisiol sy’n gallu ysgrifennu am dasgau cyffredin, bywydau a barddoniaeth ystyr twymgalon, y mae’n ei droi’n ddarn creadigol gwreiddiol o ysgrifennu.
Hyd yma mae wedi cyhoeddi llyfr barddoniaeth a straeon byrion yn annibynnol, casgliad o farddoniaeth ac wedi cyfrannu cerddi mewn ambell gasgliad o flodeugerdd gyda beirdd eraill. Bydd ei gyhoeddiad nesaf o’r enw, 1988 – A Poetic Diary of a Wrexham Author allan ar Fawrth 6ed, 2024!

Mae Paul yn aml yn perfformio ei waith yn Wrecsam ac ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a Swydd Gaer mewn digwyddiadau a gwyliau llenyddol amrywiol. Heblaw am ysgrifennu a pherfformio mewn digwyddiadau mae’n aelod o bwyllgor gŵyl lenyddol flynyddol Wrecsam, The Carnival of Words, yn aelod o Chester Poets, yn ogystal â Wrexham Writers, y mae’r olaf yn cyd-ysgrifennu’r cylchlythyr ar ei gyfer. Tan yn ddiweddar ar ôl un mlynedd ar ddeg bu’n hongian ei got ar gynnal y digwyddiadau barddoniaeth meic agored poblogaidd a lleol, Viva Voce. Mae’n falch iawn o lwyddiant Viva Voce, a ddaeth yn hen law yn Wrecsam ac a gafodd sylw ar Sianel Gymraeg S4C gydag ymddangosiadau gwadd gan Alys Conran a’r diweddar Les Barker. Cyhoeddwyd The Creative Freedom of the Mind – sy’n deillio o Viva Voce – casgliad blodeugerdd o farddoniaeth gan feirdd oedd wedi perfformio yn y digwyddiadau.