Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Joanna Davies

Joanna Davies

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

FfuglenPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Daw Joanna o Gorslas yn Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ac astudiodd Ysgrifennu Creadigol gyda Mihangel Morgan a’r Athro John Rowlands ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o nofelau dwyieithog gan gynnwys y llyfrau i oedolion ifanc poblogaidd, ‘Ffreshars’ (Gomer), a ‘Freshers’, (Honno). Mae hi hefyd yn awdur y gyfres llyfrau a lluniau dwyieithog poblogaidd i blant, y Bwci Bos. (Atebol). ‘Sawl Bwci Bo?’ oedd cyfrol ‘Dechrau Da’ BookTrust Cymru yn 2022.
Dyma’r llyfr Cymraeg gwreiddiol cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer y cynllun hwn. Cafodd dros 40,000 o gopïau eu dosbarthu i blant bach ledled Cymru.

‘Ble wyt ti Bwci Bo?/Where are you, Bwci Bo?’, y drydedd gyfrol yn y gyfres, oedd Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru a Booktrust Cymru ar gyfer Rhagfyr 2023. Ym Mehefin 2025 cafodd y dair cyfrol yn y gyfres eu cyhoeddi yn yr iaith Tseiniaidd traddodiadol yn Hong Kong, Taiwan a Macau. Mae’r llyfr nesaf yn y gyfres, ‘Beth yw’r amser, Bwci Bo?’/ What’s the time, Bwci Bo?’ ar gael o Ebrill 2026.

Ym Mawrth 2025 cyhoeddwyd addasiad Cymraeg gan Joanna o lyfr Saesneg, ‘The Street Food Festival’ (Gail Sequeira), ‘Bwyd y Byd, Bwyd y Stryd’ (Atebol), i blant rhwng 8-11 oed. Cafodd y llyfr ei ddewis fel un o ‘lyfrau gorau Cymru 2025’ gan y BookTrust. Yn Awst 2025, cyhoeddwyd llyfr a lluniau i blant bach ag awdurwyd gan Joanna, ‘Hywel Hwyl a’r Gwningen’, (Atebol), sy’n cydfynd gyda chyfres newydd S4C, ‘Parc Glan Gwil’. Gwnaeth Joanna hefyd awduro tair pennod deledu sy’n rhan o’r gyfres.

Mae Joanna yn ogystal wedi awduro dau lyfr arall i blant 7+ ‘Dymuniad Dylan – I ble aeth yr adar?’ (cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Atebol) a ‘Dymuniad Dylan -I ble aeth yr athrawon?’ (cyhoeddwyd Mai 2025 gan Atebol). Mae’r llyfr cyntaf wedi ei ddewis fel un o ‘lyfrau gorau Cymru 2025’ y Booktrust ac mae’r ail lyfr wedi ei ddewis fel un o gyfrolau ‘Athrawon Caru Darllen’ y Cyngor Llyfrau yn 2025. Bydd copiau yn cael eu dosbarthu i ysgolion Cymru yn Hydref 2025.

Mae hi’n briod â Steven Goldstone sy’n darlunio ac yn dylunio’r cyfres lyfrau ‘Bwci Bos’ a ‘Dymuniad Dylan’ ac yn byw yn Llanilltud Fawr.