Daw Wyn yn wreiddiol o bentref Llanfarian, Ceredigion, ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawdau. Ar ôl astudio Celf Gain yn y brifysgol, dilynodd yrfa fel cyfarwyddwr teledu, darlithydd ac yn fwy diweddar fel dramodydd. Mae ganddo PhD Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Ei gyhoeddiad cyntaf oedd y nofel graffeg, Gwlad yr Asyn, addasiad o’i ddrama lwyfan. Cyrhaeddodd y llyfr restr fer Gwobr Tir na n‐Og 2023, categori ysgol uwchradd. Ar hyn o bryd mae wrthi yn ysgrifennu straeon byrion yn Gymraeg ac yn Saesneg.