Dewislen
English
Cysylltwch

Cwrs Nodyn ar Natur: Cwestiynau Cyffredin

Cymhwysedd a Chwestiynau Cyffredin

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y cyfle hwn?

Mae’r cyfle hwn ar gyfer unigolion o liw o Gymru sy’n uniaethu fel merched neu o ryw ymylol. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn Saesneg. Fodd bynnag, rydym yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu’n bennaf yn Gymraeg i ymuno, gan y bydd y sgiliau a’r grefft y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs yn berthnasol i ysgrifennu creadigol ym mhob iaith.

Rydym hefyd yn croesawu datganiadau o ddiddordeb yn arbennig gan awduron sy’n uniaethu ag un neu nifer o’r datganiadau canlynol:

  • Rwy’n dod o gefndir incwm isel (mae hyn yn cynnwys unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau gan gynnwys lwfansau anabledd pan oedd ymgeiswyr yn 14 oed);
  • Rwy’n nodi fy mod yn anabl neu fod gennyf gyflwr iechyd hirdymor;
  • Rwy’n perthyn i’r gymuned LGBTQA+
Mae yna rwystr(au) sydd yn ei gwneud hi’n anodd i mi ymgeisio am y cyfle hwn. Pa gymorth sydd ar gael i mi?

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes unrhyw beth am y broses ymgeisio neu’r cwrs y byddwch yn ei chael yn anodd. Byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu.

Gallwch gysylltu â ni ar e-bost (tynewydd@llenyddiaethcymru.org) neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd). Neu gallwch gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Bydd y grŵp o hyd at 8 o awduron llwyddiannus yn cael eu gwahodd i anfon Access Rider atom, i helpu i roi gwybod am y cymorth y bydd ei angen arnoch i allu cymryd rhan lawn yn y cwrs. Gallwn ddarparu templed os yw o gymorth, a bydd staff Llenyddiaeth Cymru wrth law i helpu.

Oes yna gost ynghlwm â’r cyfle hwn?

Nac oes. Fel arfer, mae angen talu ffi i fynychu’r rhan fwyaf o gyrsiau Tŷ Newydd, ond mae rhywfaint o’n gweithgarwch mwy strategol yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i unigolion drwy broses ymgeisio.

Oes yna gefnogaeth ariannol ar gael i gyfrannu tuag at gostau teithio?

Oes. Mae cyfraniad ariannol o hyd at £70 ar gael i bob cyfranogwr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am deithio i ac o Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, gallwch gysylltu â ni ar e-bost (tynewydd@llenyddiaethcymru.org) neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd). Neu, mae croeso i chi gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Tŷ Newydd.

Oes angen bod â phrofiad blaenorol i gymryd rhan yn y cyfle hwn?

Yn fyr, nac oes. Rydym yn chwilio am amrywiaeth o awduron i gymryd rhan yn y cwrs, o’r rhai sydd newydd ddechrau archwilio’r genre i’r rhai sydd efallai eisoes wedi cyhoeddi eu gwaith. Yr hyn sy’n bwysig yw dangos diddordeb mewn dyfnhau eich dealltwriaeth o ysgrifennu natur a’ch perthynas â byd natur.

Ydw i angen bod yn wybodus am natur a’r amgylchedd er mwyn cymryd rhan yn y cyfle hwn?

Nid oes angen i gyfranogwyr fod yn wybodus am yr amgylchedd a’r hinsawdd, dim ond dangos diddordeb mewn natur a’r byd naturiol. Rydym yn annog cyfranogwyr o ardaloedd gwledig a threfol i ymgeisio, gan y bydd pwyslais cyfartal yn cael ei roi ar y ddwy dirwedd yn ystod y cwrs.

Beth fydd yn digwydd wedi i mi fynegi diddordeb yn y cyfle hwn?

Bydd yr holl e-byst a fideos a gyflwynir yn cael eu hystyried gan y tiwtoriaid, gyda chefnogaeth gan staff Llenyddiaeth Cymru. Byddwn yn hysbysu pob awdur o’r canlyniad erbyn dydd Llun 28 Awst. Byddwn yn dewis hyd at wyth awdur llwyddiannus ar gyfer y cwrs.

Bydd ein penderfyniad yn seiliedig ar:

– sut rydych chi wedi cyfleu eich diddordeb a’ch angerdd dros natur ac ysgrifennu am natur

– eich dealltwriaeth o ddiben y cwrs a sut y gallai helpu eich datblygiad fel awdur, yn ogystal â chefnogi eich llesiant.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn llwyddiannus ar gyfer y cyfle hwn?

Byddwn yn darparu rhywfaint o adborth ysgrifenedig i bawb sy’n mynegi diddordeb yn y cwrs, a byddwn yn cynghori ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid.

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch llesiant. Rydym yn rhoi ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob e-bost unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.

Beth fydd yn digwydd yn dilyn y cwrs?

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn annog y grŵp i barhau i gyfarfod ar-lein ar ôl y cwrs, i drafod cynnydd, rhwystrau, ac i rannu gwaith sydd ar y gweill. Lle bo’n berthnasol, bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd wrth law i gyfeirio at gyfleoedd datblygu a/neu gyhoeddi perthnasol.