Ein Gwerthoedd
Mae gennyn ni gyfres glir o werthoedd sy’n sail i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n disgwyl i’n holl bartneriaid a rhanddeiliaid, cyfranogwyr creadigol, a chynulleidfaoedd eu parchu. Bydd y gwerthoedd hyn yn helpu i ddatblygu Cymru lle bydd llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau, a byddan nhw’n hollbwysig wrth inni gyflawni ein nodau.
Rydyn ni’n rhoi gwerth ar gwaith sy’n:
- Cefnogi grwpiau a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli
- Golygu cydweithio a chydweithredu
- Arloesol ac yn uchelgeisiol
- Parchu’r Gymraeg
- Hyrwyddo cynhwysiant a hygyrchedd
- Gadael waddol
- Eirioli dros rym llenyddiaeth
Egwyddorion Cyflawni
Rydyn ni’n gweithio’n galed i greu newid cadarnhaol a chynaliadwy i Gymru, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gweithgareddau o safon uchel.
Rydyn ni’n dilyn cyfres gyson a chydlynol o Egwyddorion Cyflawni sy’n ein helpu ni i wneud penderfyniadau am ein gweithgareddau a sut rydyn ni’n darparu’r rheini. Mae’r egwyddorion hyn yn bwysig i gynyddu effaith ein gwaith, a byddwn ni’n dod o hyd i bartneriaid sy’n cyd-fynd â’r egwyddorion hyn. Mae gwaith ymchwil ArtWorks Cymru ar egwyddorion ansawdd wedi dylanwadu arnyn nhw, yn ogystal â’n hymwneud â chynllun Ysgoloriaethau Creadigol Jerwood.
Rydyn ni’n bwriadu gwneud gwaith sy’n:
- Cael ei arwain gan effaith, ac sy’n cyd-fynd â’n Nodau Effaith
- Rhoi pwyslais ar fod yn wrth-hiliol
- Cyrraedd ein safonau ar gyfer darparu’n gynhwysol
- Cyd-fynd â Chontract Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ac sy’n talu artistiaid a gweithwyr llawrydd yn deg
- Osgoi gorgyffwrdd â darpariaeth bresennol neu ddarpariaeth sydd ar y gweill gan bobl neu sefydliadau eraill
- Golygu gweithio mewn partneriaeth ar draws nifer o sectorau i ehangu cyrhaeddiad llenyddiaeth
- Cefnogi nod Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru