Dewislen
English
Cysylltwch
Nia Morais
Mae Nia Morais yn 25 oed ac yn dod o Gaerdydd. Hoffai hi ddechrau prosiect ysgrifennu hirach, fel nofel, ac mae ganddi ddiddordeb yn genres y stori fer, dramâu sain, realaeth hudol, ffantasi ac arswyd. Mae Nia yn Gymraes sydd â theulu’n hanu o Cape Verde, ac yn ddiweddar enillodd radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd. Yn hydref 2020, rhyddhaodd ei drama sain gyntaf, Crafangau, fel rhan o brosiect Theatr y Sherman, Calon Caerdydd. Mae ei gwaith gan amlaf yn canolbwyntio ar themâu hunaniaeth a goroesi.

 

Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?

Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfle i mi dyfu a datblygu rhai syniadau ysgrifennu sydd wedi bod yn egino yng nghefn fy meddwl ers cryn amser. Rwy’n edrych ymlaen at fagu meddylfryd awdur proffesiynol a datblygu fy ymarfer ysgrifennu y tu hwnt i ble rydw i ar hyn o bryd.

 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?

Rwy’n edrych ymlaen at gael y cyfle i ddysgu gan fentoriaid yn ogystal â chan awduron ifanc eraill – alla i ddim aros i rannu syniadau. Hoffwn allu datblygu prosiect hirach na’r hyn rydw i wedi arfer ag e ar hyn o bryd.

 

Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?

Ymhen pum mlynedd hoffwn deimlo’n sefydlog wrth i mi barhau i dyfu fel awdur. Byddwn i hefyd wrth fy modd cael bod yn awdur cyhoeddedig, gyda mwy o ddramâu ac efallai hyd yn oed nofel o dan fy ngwregys.

Nôl i Yr awduron sydd wedi eu cefnogi