Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru 2020: Datblygu Awduron o Liw


Rhaglen 12 mis yw hon, sy’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yn rhoi cyfleoedd datblygu i’r rheini sy’n awyddus i ysgrifennu’n broffesiynol yn y sector llenyddiaeth, drama ac ysgrifennu i’r sgrîn.

Y Rhaglen

Mae Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw yn gam pwysig yn ymdrechion Llenyddiaeth Cymru i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad. Y nod yw creu diwylliant sy’n gwbl gynrychioladol o gymunedau amrywiol Cymru, a sicrhau bod gan Gymru wastad ei chyflenwad o unigolion talentog, amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

Mae Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw wedi’i chynllunio drwy ymgynghori â chymunedau, awduron ac ymgynghorwyr sy’n rhan o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru, gan fynd i’r afael â’r rhwystrau presennol yn y sector. Bydd y rhaglen yn cefnogi 12 o awduron i ddatblygu eu gwaith drwy gymorth ariannol a mentora, yn ogystal â thrwy ddod â’r proffesiwn ysgrifennu yn nes at bobl drwy gyfleoedd i rwydweithio a dosbarthiadau meistr yng ngofal comisiynwyr ac awduron profiadol.

 

Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb

Mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022 yn nodi Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb fel un o brif flaenoriaethau tactegol Llenyddiaeth Cymru. Rydym yn credu y dylai pob unigolyn, waeth beth fo’u cefndir, deimlo y caent eu cynnwys a bod ganddynt ryddid i lywio, cyfrannu at a theimlo perchnogaeth dros y byd llenyddiaeth yng Nghymru.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Ers cyfnod hir, mae ein diwylliant llenyddol, yn y ddwy iaith, wedi bod yn rhy unffurf, heb iddo wir adlewyrchu’r ystod o leisiau a phrofiadau sydd yng Nghymru. Mae nifer o unigolion a sefydliadau llawr gwlad wedi gweithio’n hynod galed i sicrhau cynnydd go iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ond rhaid inni wneud mwy i roi llwyfan i’r talentau amrywiol a chyffrous sydd gennyn ni, fel y gallwn fod yn falch o ddiwylliant llenyddol bywiog sy’n hedfan baner dros gymunedau amrywiol Cymru. Rydyn ni’n ffodus iawn i gael amrywiaeth gyfoethog o awduron yng Nghymru, yn adrodd eu straeon eu hunain, ac mae’r diffyg cynrychiolaeth hanesyddol yma’n newid. Bydd y rhaglen bwysig hon yn bwrw goleuni ar leisiau eithriadol sy’n cynrychioli’r gorau o lenyddiaeth gyfoes Cymru, ac mae potensial gan bob un o’r awduron hyn i weddnewid ein diwylliant llenyddol ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Grŵp Awduron 2021/22

Mae 12 awdur wedi eu dewis i fod yn rhan o’r rhaglen hon. Gallwch ddarganfod mwy am eu prosiectau amrywiol isod.

 

Mentoriaid

Mae 13 Mentor wedi eu paru gyda phob un o awduron y rhaglen. Gallwch ddarganfod mwy am bob un o’r Mentoriaid, isod.

 

Dychwelyd i’n prosiectau