Dewislen
English
Cysylltwch
Phil Okwedy

Mae Phil Okwedy yn 58 oed ac yn dod o Sir Benfro. Ac yntau wedi’i eni yng Nghaerdydd i fam o Gymru a thad o Nigeria, mae’n adroddwr straeon sy’n perfformio ar lafar ac yn grëwr chwedlau sy’n seilio’i waith ar ei dreftadaeth ddeuol ac ar ddiwylliannau niferus er mwyn dod o hyd i’r cyfoes yn y traddodiadol. Mae’n perfformio mewn clybiau adrodd straeon yn rheolaidd, ac wedi ymddangos yng Ngwyliau Adrodd Straeon Aberystwyth a Beyond the Border, yn ogystal ag yng Ngŵyl Kea yng Ngwlad Groeg a Gŵyl Fabula yn Sweden. Mae ei lyfr cyntaf, Wil & the Welsh Black Cattle, yn cyflwyno cyfres o straeon gwerin Cymreig sy’n ymwneud â mytholeg yr hen borthmyn.

 

Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?

Hyd yn hyn, mae’r hyn yr wyf wedi’i ysgrifennu wedi bod yn fersiwn o’r hyn yr wyf wedi’i siarad fel storïwr llafar. Rwy’n gweld y rhaglen fel cyfle i ddatblygu’r lleferydd hwnnw trwy archwilio mwy o genres llenyddol er mwyn sefydlu arfer ysgrifennu a fydd yn llywio, ac yn cael ei lywio gan, fy ymarfer adrodd straeon.

 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?

Mae’r cyfle i gydweithio â mentor yn gyfle aruthrol i mi. Gallai’r prosiect sydd gennyf mewn golwg fynd i sawl cyfeiriad felly bydd cael awdur profiadol i weithio gydag ef yn hanfodol wrth lunio’r prosiect. Rwy’n edrych ymlaen at rannu’r siwrnai gyda’r cyfranogwyr eraill hefyd. Yn benodol, gobeithiaf y bydd cymryd rhan yn y rhaglen yn fy helpu i ddatblygu llyfr ynghyd â sioe fyw yr wyf yn ei datblygu ar hyn o bryd fel bod y naill yn cefnogi ac yn hysbysu’r llall ac i’r gwrthwyneb.

 

Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?

Hoffwn fod wedi sefydlu gyrfa ysgrifennu proffesiynol gyfochrog ochr yn ochr ag adrodd straeon.

Nôl i Yr awduron sydd wedi eu cefnogi