Dewislen
English
Cysylltwch
Shara Atashi
Mae Shara Atashi yn dod o Aberystwyth. Mae hi’n gyfieithydd ac yn awdures sydd â diddordeb mewn gwaith ffeithiol greadigol. Cafodd fagwraeth lenyddol, gan mai ei thad oedd y diweddar Manouchehr Atashi o Iran: bardd, athro llenyddiaeth a golygydd ar gylchgrawn darlledu cenedlaethol Iran. Yn 2016, ymunodd â Chylch Awduron Peterborough a dechrau mynd ati i rannu ei barddoniaeth drwy gyhoeddiadau lleol ac mewn blodeugerdd.

 

Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?

Rwy’n gobeithio gwella fy nghrefft, a symud ymlaen at gyhoeddi yn fuan iawn.

 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?

Edrychaf ymlaen at yr holl elfennau gan eu bod i gyd wedi’u hanelu at ddatblygiad proffesiynol gan ddarparu gwybodaeth arbenigol am y diwydiant yn ogystal â help gyda’r grefft. Edrychaf ymlaen at gwrdd â’r lleill a rhwydweithio gyda nhw.

 

Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?

Hoffwn fod yn draethodydd (gyda thâl), ac rwy’n gobeithio y bydd fy nofel wedi ei chyhoeddi erbyn hynny. Gobeithiaf hefyd y bydd fy nyddiau yn rai llawn ‘sgwennu o bob math.

Nôl i Yr awduron sydd wedi eu cefnogi