Dewislen
English
Cysylltwch
Mae gan lenyddiaeth wreiddiau dwfn yn y cysyniad o ryddid mynegiant. Serch hynny, mae gwir ryddid yn ddibynnol ar gydraddoldeb cyfleoedd a chynrychiolaeth deg.

Pan nad ydych yn gweld pobl fel chi yn yr hyn yr ydych yn ei ddarllen, rydych yn llawer llai tebygol o chwilio gweithiau tebyg neu weld gwerth mewn ysgrifennu creadigol. Pan nad ydych yn gweld eich hunan mewn sefydliad sy’n cynnig cyfleoedd creadigol, rydych yn llawer llai tebygol o ymgeisio amdanynt. Trwy weithio gyda phartneriaid, byddwn yn gwneud mwy i feithrin amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn y sector lenyddol. Dylai awduron Cymru gynnwys ystod o oedrannau, o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd, ethnigedd, rhyw, ardaloedd ac ieithoedd. Nid cau unrhyw un allan yw’r bwriad yma, ond yn hytrach greu cyfleoedd teg a chyfartal, a sicrhau fod datblygiad proffesiynol ac arloesedd celfyddydol ar gael i bawb.

 

Drwy ein Blaenoriaethau Tactegol, rydym wedi adnabod tair nodwedd benodol, a byddwn yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gleientiaid sydd yn:

 

 

Byddwn yn parhau i arddel diffiniad eang o lenyddiaeth, gan roi cyfleoedd i gyfranogwyr o bob gallu fwynhau ac arbrofi â gwahanol ffurfiau.

 

Yn 2017, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Greadigol Weston Jerwood i Llenyddiaeth Cymru – un o ddim ond 2 sefydliad yng Nghymru a enillodd le ar y cynllun. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi sefydliadau celfyddydol i wella eu dulliau recriwtio a datblygu talent a chynyddu eu gallu i gynhyrchu gweithiau celfyddydol rhagorol.