Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Mentoriaid 2023-2024

Mae Cynrychioli Cymru yn un o brif raglenni Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i hariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.  Wedi’i datblygu i wella cynrychiolaeth o fewn y sector, nod y rhaglen yw helpu trawsnewid diwylliant llenyddol y wlad yn un sy’n wirioneddol adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru a sefydlu llif o ddoniau Cymreig amrywiol a gydnabyddir ledled y DU a thu hwnt.  Ceir rhagor o wybodaeth am y rhaglen flaenllaw yma. 
Yn ei thrydedd flwyddyn, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc.  Mae’r mentoriaid, a ddewiswyd mewn ymgynghoriad ag awduron y rhaglen, yn arbenigo ar ystod o genres, llwybrau proffesiynol, a lleoliadau. Mae rhai yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer plant a/neu bobl ifanc tra bod eraill yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd o oedolion. 
Sophie Anderson
Yn mentora: Hammad Rind
Mwy
Melvin Burgess
Yn mentora: Summer Keys
Mwy
Jonathan Edwards
Yn mentora: Leigh Anthony Manley
Mwy
Kat Ellis
Yn mentora: Jessica Doyle
Mwy
Catherine Fisher
Yn mentora: Sheik Rana
Mwy
Mererid Hopwood
Yn mentora: Sioned Erin Hughes
Mwy
Danielle Jawando
Yn mentora: Jade E. Bradford
Mwy
Patrice Lawrence
Yn mentora: Alice Knight
Mwy
Kim Moore
Yn mentora: Bethany Handley
Mwy
James Nicol
Yn mentora: Stacey Taylor
Mwy
Emma Smith-Barton
Yn mentora: Taylor Edmonds
Mwy
Manon Steffan Ros
Yn mentora: Megan Angharad Hunter
Mwy
Joshua Seigal
Yn mentora: Rhiannon Oliver
Mwy
Casia Wiliam
Yn mentora: Osian Grifford
Mwy
Sophie Anderson
Yn mentora: Hammad Rind

Llun: Nick Anderson (@seenicksphotography)

Ganwyd Sophie Anderson yn Abertawe, ac erbyn hyn mae’n byw gyda’i theulu yn Ardal y Llynnoedd yng ngogledd Lloegr. Mae ei nofelau poblogaidd wedi ennill nifer o wobrau yn cynnwys, Gwobr Llyfr y Flwyddyn gan Siop Lyfrau Annibynnol y Flwyddyn ynghyd â Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Mae wedi cyrraedd rhestr fer Medal Carnegie CILIP ddwywaith, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr Plant Waterstone’s, ac wedi cipio Gwobr Llyfr Blue Peter, a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Ffuglen i Blant gan y British Book Awards, Gwobr Andersen a Gwobr Branford Boase.

Mae llyfrau Sophie wedi eu cyfieithu i dros bump ar hugain o ieithoedd, ac mae The House with Chicken Legs  wedi ei addasu ar gyfer y llwyfan gan Les Enfants Terrible.

Twitter: @sophieinspace

http://www.sophieandersonauthor.com

Cau
Melvin Burgess
Yn mentora: Summer Keys

Llun: Charlotte Graham

Mae Melvin Burgess wedi bod yn ysgrifennu ffuglen ar gyfer pobl ifanc ers cyhoeddi ei gyfrol gyntaf The Cry of the Wolf, yn 1990. Ei nofel Junk, a gyhoeddwyd yn 1996, oedd man cychwyn genre penodol ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc (YA), ac enillodd gymeradwyaeth ym Mhrydain a thramor. Enillodd Wobr Ffuglen i Blant y Guardian, Medal Carnegie, ac mewn pleidlais roedd y nofel ymhlith y deg uchaf o enillwyr Medal Carnegie erioed. Mae wedi ennill nifer o wobrwyon eraill dros y blynyddoedd, gan gynnwys Gwobr LA Llyfr y Flwyddyn i Oedolion Ifanc am ei gyfrol Doing It. Ers hynny, mae wedi parhau i gyhoeddi ffuglen boblogaidd, dadleuol, a miniog.

Cyhoeddwyd Three Bullets, ei nofel ddiweddaraf ar gyfer pobl ifanc yn 2021, ac yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Count, ar gyfer plant iau, wedi ei ddylunio gan Chris Mould. Cyhoeddwyd Loki, ei gyfrol gyntaf ar gyfer oedolion ym mis Mai 2022.

Twitter: @MelvinBurgess

http://melvinburgess.net/news/

Cau
Jonathan Edwards
Yn mentora: Leigh Anthony Manley

Enillodd casgliad barddoniaeth cyntaf Jonathan Edwards My Family and Other Superheroes (Seren, 2014), Wobr Farddoniaeth Costa, a Gwobr People’s Choice Llyfr y Flwyddyn. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Casgliad Cyntaf Fenton Aldeburgh. Enillodd ei ail gyfrol, Gen (Seren, 2018) hefyd wobr People’s Choice Llyfr y Flwyddyn, ac yn 2019 cyrhaeddodd ei gerdd am Bont Casnewydd restr fer Gwobr Forward am y Gerdd Orau. Mae ei gerddi wedi ennill Cystadlaethau Barddoniaeth Ledbury, Oxford Brookes a Troubadour; wedi ymddangos y The Guardian a The Poetry Review, ac wedi eu ffilmio gan y BBC a’r Poetry Society. Mae ei ffuglen wedi ymddangos yn y New Welsh Review, a'i waith ffeithiol-greadigol wedi ymddangos mewn blodeugerddi gan Wales Arts Review a Nine Arches. Mae wedi bod yn awdur preswyl yn Nghartref Dylan Thomas Boathouse a Llyfrgell Gladstone, ac mae wedi bod yn feirniad Llyfr y Flwyddyn a’r Gystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol. Mae’n byw yn Crosskeys, yn ne Cymru.

Cau
Kat Ellis
Yn mentora: Jessica Doyle

Mae Kat Ellis yn awdur ffuglen arswyd a nofelau ias a chyffro i bobl ifanc, ac mae ei chyfrolau yn cynnwys Wicked Little Deeds, Harrow Lake a Blackfin Sky. Astudiodd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, cyn mynd i weithio ym myd llywodraeth leol am rai blynyddoedd, ac yna symud at ysgrifennu’n llawn amser. Derbyniodd Kat Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru er mwyn datblygu ei gwaith ar y gweill, ac fe gyhoeddwyd Harrow Lake o ganlyniad. Mae ei chyfrolau wedi eu dethol gan y Junior Library Guild ac YALSA, ac wedi eu cyfieithu i nifer o ieithoedd.

Mae wrth ei bodd gyda byd arswyd a ffuglen wyddonol, ac yn hoffi archwilio adfeilion, cestyll a mynwentydd – ceir digon o’r rhain yng ngogledd Cymru, ble mae Kat a’i gŵr yn byw.

Twitter: @el_kat

Instagram: @katelliswrites

https://katelliswrites.com/

Cau
Catherine Fisher
Yn mentora: Sheik Rana

Llun: Rachel Davies Photography

Mae Catherine Fisher yn fardd a nofelydd plant a phobl ifanc. Mae wedi cyhoeddi pum casgliad o farddoniaeth, y diweddaraf yw The Bramble King (Seren Books). Mae ei gwaith wedi ei gynnwys mewn nifer fawr o flodeugerddi.

Mae wedi ysgrifennu mwy na 40 o nofelau ar gyfer pobl ifanc, yn cynnwys Incarceron, a oedd ar restr gwerthwyr gorau The New York Times, ac yn Lyfr y Flwyddyn The Times. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd.

Mae wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau Carnegie, Blue Peter, Gwobr Llyfrau Smarties a Costa, ac wedi ennill Gwobr Tir na n-Og Cyngor Llyfrau Cymru ddwy waith, yn fwyaf diweddar ar gyfer The Clockwork Crow.

Catherine oedd y cyntaf i’w phenodi i rôl Young People’s Laureate for Wales.

https://www.catherine-fisher.com/

Cau
Mererid Hopwood
Yn mentora: Sioned Erin Hughes

Wrth ei gwaith bob dydd mae Mererid yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Aeth ieithoedd a llenyddiaeth â’i bryd ers dyddiau ysgol. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, ac enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw, wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n Fardd Plant Cymru a derbyniodd wobr Tir na n-Óg am un o’i nofelau i blant yn 2018. A hithau bellach yn fam-gu i bedwar mae wrth ei bodd yn creu pob math o storïau i gadw’r wyrion yn ddiddan. Mae wedi mwynhau cyfleoedd niferus i drafod llenyddiaeth mewn cymdeithasau a dosbarthiadau ledled Cymru, gan fentro weithiau i gymryd rhan mewn gwyliau llenyddol dramor. Mae’n talyrna ac ymrysona ac yn aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin. Derbyniodd Fedal Glyndŵr, Medal Dewi Sant y Prif Weinidog a Medal Gŵyl y Gelli am ei chyfraniad i lenyddiaeth, ac mae’n un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Tu hwnt i’r ymwneud â llenyddiaeth, mae’n ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru, lle cafodd wefr arbennig eleni o fod yn rhan o brosiect ‘Hawlio Heddwch’ sy’n dathlu canrif Deiseb Heddwch menywod Cymru.

Cau
Danielle Jawando
Yn mentora: Jade E. Bradford

Mae Danielle Jawando yn awdur a sgriptiwr teledu. Enillodd ei nofel gyntaf i bobl ifanc, And the Stars Were Burning Brightly, wobr Nofel i Bobl Ifanc Great Reads, ac fe gyrhaeddodd restr fer Wobr Llyfrau Plant Waterstone’s, Gwobr Llyfr YA, gwobr Jhalak Children’s & YA Prize, Gwobr Branford Boase, ac fe gyrhaeddodd restr hir Medal Carnegie CILIP, Gwobr Llyfrau UKLA, a Gwobrau Amazing Book.

Ymhlith ei chyhoeddiadau eraill mae cyfrol ffeithiol-greadigol i blant Maya Angelou (Little Guides to Great Lives), straeon byrion Paradise 703 (wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Finishing Line Press Award) a The Deerstalker (a ddetholwyd fel un o chwe chyfrol ar gyfer rownd derfynol Cystadleuaeth Stori Fer We Need Diverse Books ). Yn ogystal, perfformiwyd sawl un o’i dramâu byr ym Manceinion a Llundain. Mae Danielle hefyd wedi gweithio fel awdur stori ar raglen Coronation Street. Enillodd ei hail gyfrol i bobl ifanc When Our Worlds Collided, wobr gychwynnol y Jhalak Children’s and YA Prize.

Instagram:@danielle_jawando

Cau
Patrice Lawrence
Yn mentora: Alice Knight

Mae Patrice Lawrence yn awdur arobryn ar gyfer plant a phobl ifanc â chefndir mewn cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Cyrhaeddodd ei chyfrol gyntaf i oedolion ifanc, Orangeboy, restr fer Gwobr Plant Costa, ac enillodd wobr YA y Bookseller a Gwobr Waterstone’s ar gyfer Ffuglen Plant Hŷn. Ers hynny mae ei llyfrau wedi cyrraedd rhestr fer Medal Carnegie, Gwobr Llyfrau Little Rebels, Gwobr Lyfrau Annibynol (Indie Book Award), a nifer fawr o wobrwyon rhanbarthol. Mae wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr gychwynnol Jhalak ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, a Gwobr Ffuglen Pobl Ifanc Crime Fest ddwy waith. Mae Patrice yn gweithio’n helaeth mewn ysgolion yn ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn storïwyr, ac mae’n mentora oedolion sydd o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol ym meysydd cyhoeddi traddodiadol ym Mhrydain.

Twitter: @LawrencePatrice

Cau
Kim Moore
Yn mentora: Bethany Handley

Llun: Lorna Elizabeth

Enillodd bamffled Kim Moore If We Could Speak Like Wolves wobr yng nghystadleuaeth Pamffled Poetry Business 2011. Enillodd ei chasgliad barddoniaeth cyntaf The Art of Falling (Seren 2015) Wobr Goffa Geoffrey Faber, ac enillodd ei hail gasgliad All The Men I Never Married (Seren, 2021) Wobr Forward 2022 ar gyfer y Casgliad Gorau. Cyhoeddwyd ei chyfrol ffeithiol-greadigol cyntaf What The Trumpet Taught Me gan Smith/Doorstop ym mis Mai 2022. Cyhoeddwyd cyfrol o draethodau ganddi Are You Judging Me Yet? Poetry and Everyday Sexism gan Seren fis Mawrth 2023. Mae hi’n Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion.

Twitter: @Kimmoorepoet

https://www.kimmoorepoet.co.uk/

Cau
James Nicol
Yn mentora: Stacey Taylor

Mae James Nicol wedi caru llyfrau a straeon ar hyd ei oes. Yn blentyn treuliodd oriau maith yn darllen nofelau, edrych ar gartwnau’r 1980au, neu’n mynd ar anturiaethau yn y goedwig ar waelod yr ardd. Derbyniodd ei nofel gyntaf The Apprentice Witch (Chicken House) a gyhoeddwyd yn 2016, ganmoliaeth mawr ac fe'i gyhoeddwyd yn rhyngwladol gan werthu’n helaeth. Mae trioleg o’i eiddo wrthi’n cael ei addasu ar gyfer y teledu. Mae James yn tiwtora ac yn mentora awduron fel rhan o’r Oxford Centre for Fantasy, ac mae hefyd yn cynnal sesiynau ar gyfer y Golden Egg Academy, SCWBI a Write Mentor. Mae’n byw gyda’i ŵr a’i ferch ger Caerefrog.

Instagram: @jamesnicol

https://jamesnicolbooks.com/

Cau
Emma Smith-Barton
Yn mentora: Taylor Edmonds

Mae Emma Smith-Barton yn awdur, athro a mentor ysgrifennu creadigol o dde Cymru. Mae cael ei magu rhwng dau ddiwylliant wedi cael dylanwad mawr ar ei gwaith, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn themâu hunaniaeth a pherthyn. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ar gyfer pobl ifanc, The Million Pieces of Neena Gill, gan Penguin Random House, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfrau Plant Waterstone’s, Gwobr Branford Boase a Gwobr Nofel Ramantaidd Gyntaf Cynghrair Nofelwyr Rhamantaidd). Mae ganddi radd BA Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gan Brifysgol Warwick a gradd MA Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa. Roedd yn Awdur Wrth ei Gwaith yng Ngŵyl y Gelli 2023 a bu’n feirniad ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023.

Cau
Manon Steffan Ros
Yn mentora: Megan Angharad Hunter

Llun: Ger Lleu Ros

Mae Manon Steffan Ros yn awdur, dramodydd, sgriptiwr a cholofnydd sy’n gwneud y rhan fwyaf o’i hysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi wedi awduro dros 40 o lyfrau, ac wedi ennill gwobrau megis Llyfr y Flwyddyn a Tir na n-Og. Enillodd Fedal Yoto Carnegie ar gyfer The Blue Book of Nebo yn 2023. 

Twitter: @manonsteffanros

Cau
Joshua Seigal
Yn mentora: Rhiannon Oliver

Mae Joshua Seigal yn fardd, perfformiwr ac addysgwr adnabyddus yma a thramor. Mae wedi derbyn sawl gwobr yn cynnwys Gwobr Llyfr Laugh Out Loud, a Gwobr Llyfr Y Bobl. Mae sawl casgliad o farddoniaeth Joshua wedi eu cyhoeddi gan Bloomsbury, yn ogystal â llyfrau wedi eu cyhoeddi gan Harper Collins a Troika, ac mae’n Llysgennad Swyddogol ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Yn ogystal â pherfformio mewn gwyliau llenyddol ar hyd a lled y byd, mae Joshua wedi ysgrifennu a pherfformio ar gyfer y BBC, ac wedi bod yn awdur preswyl mewn nifer o ysgolion. Mae gan Joshua MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac Addysg gan Goleg Goldsmiths, ac mae’n teimlo’n freintiedig i gael un o’i gerddi wedi ei chyhoeddi yng nghylchgrawn Poetry Wales.

Twitter: @joshuaseigal

Instagram: @joshuaseigal

www.joshuaseigal.co.uk 

Cau
Casia Wiliam
Yn mentora: Osian Grifford

Llun: Sioned Birchall

Mae Casia Wiliam yn fardd ac yn awdur llawrydd. Bu’n Fardd Plant Cymru rhwng 2017 a 2019, ac mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant gan gynnwys Sw Sara Mai (Y Lolfa, 2020) a enillodd Wobr Tir Na n-Og yn 2021. Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfrol farddoniaeth, Eiliad ac Einioes (Barddas, 2020), ac yn fwy diweddar, nofel i oedolion ifanc o’r enw Sêr y Nos yn Gwenu (Y Lolfa, 2023). 

Twitter: @Casia_Lisabeth

Cau