Mi fydd clare potter, Duke Al Durham, Esyllt Maelor a Patrick Jones ymhlith y beirdd a fydd yn perfformio yn nigwyddiad Llenyddiaeth Cymru, Dihuno’r Dychymyg: Barddoniaeth yn y Senedd, nos Fawrth 14 Chwefror, 5.30 pm – 7.30 pm.  

Hwn fydd yr ail mewn rhaglen o naw digwyddiad yn adeiladau’r Senedd i ddathlu popeth barddonol, a chodi proffil barddoniaeth a’r gair llafar yng nghartref democratiaeth Cymru. 

Bydd y digwyddiad ar 14 Chwefror – sydd AM DDIM i’w fynychu – yn cynnwys perfformiadau a sgyrsiau ar y thema Barddoniaeth ar gyfer Iechyd a Llesiant, ac fe’i noddir gan Dawn Bowden MS, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.  

Mae profion clinigol wedi dangos bod darllen ac ysgrifennu creadigol yn fuddiol i’n llesiant, yn gorfforol ac yn feddyliol ill dau. Mae llenyddiaeth yn adnodd grymus y gellir ei ddefnyddio i fynd i’r afael mewn ffordd gadarnhaol â nifer o faterion, a gall gyfrannu at wella bywydau pobl Cymru. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad yn trafod eu profiadau personol neu broffesiynol o ddefnyddio barddonaieth i gefnogi gwell iechyd a llesiant. Yn ogystal â pherfformiadau barddoniaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd trafodaethau ar sut y gall barddoniaeth helpu i wneud synwyr o ddiagnosis meddygol, i ffeindio ffordd trwy alar, i gefnogi iechyd meddwl, adeiladu hyder a hunan-grêd, ac i oresgyn trawma.
Bydd dehongliad BSL yn cael ei ddarparu gan Cathryn McShane.
Gofynnir yn garedig i unrhyw un sy’n dymuno mynychu gadarnhau drwy lenwi’r ffurlfen fer hon, neu trwy e-bostio: post@llenyddiaethcymru.org 

Os na allwch ymuno â ni yn y Senedd, mae modd gwylio arlein yn fyw:

https://senedd.zoom.us/j/61166057505?pwd=Z2k1a3UwOGpnVjNrNFIxYVhwaU1hZz09

Passcode: 0eqjuWy8Tn

 

Am fwy o wybodaeth am Dihuno’r Dychymyg, ewch i dudalen y rhaglen ar ein gwefan