Dihuno’r Dychymyg
Mae Dihuno’r Dychymyg: Barddoniaeth yn y Senedd yn rhaglen o ddigwyddiadau yn adeiladau’r Senedd a drefnir gan Llenyddiaeth Cymru, ac a ariennir gan Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn dathlu beirdd a barddoniaeth Cymru yn eu holl ffurfiau, gan godi proffil y grefft yng nghartref democratiaeth a datganoli yng Nghymru.
Mewn cyfnod o raniadau cynyddol ac ansicrwydd byd-eang, mae gan farddoniaeth y potensial i’n cysylltu ni â’n gilydd a’n helpu i wneud synnwyr o’n byd. Gall ein dysgu sut i ddychmygu a pharchu profiadau pobl eraill, a gall ein helpu i gyfathrebu syniadau a pholisïau cymhleth mewn ffordd sy’n glir ac yn gyfarwydd yn ein bywydau o ddydd i ddydd.
Gyda naw digwyddiad dros y pedair blynedd nesaf, bydd Dihuno’r Dychymyg: Barddoniaeth yn y Senedd yn rhoi llwyfan i leisiau amrywiol o bob cwr o Gymru; arddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a dathlu diwylliant llenyddol Cymru; a sicrhau fod pobl o bob oedran ac o gefndiroedd amrywiol yn ymgysylltu â’r Senedd.
Darganfyddwch fwy am y ddigwyddiadau a fu isod.