“Tell me of Cranogwen”, said the sea to the shore.
“Dywed, beth oedd ei chyfrinach?”
“She was brave”, came the reply,
softer than a crab shifting on sand.
“Merch y graig, gonest, garw, cryf oedd hi,
my bones remember her steps,
penderfynoldeb ei chamau
so certain, so assured.
Unafraid of moulding new paths
through my sands, my fields,
they still hum her harmonies,
playful as the wind.
A deimli di ei halaw
yn ymestyn
dros fy nhraethau,
a’i geiriau
gloyw
gynt
yn adlewyrchu
ar fy nghreigiau?”
“Ah yes. My seaweed, my rocks recall her voice well.
Yma bu barddoniaeth
mewn heli
raising the daily works of women and girls,
gwireddu gobeithion
till her song reached the gulls soaring overhead.
They carried her words across the sea,
ei brawddegau a deithiant
to shores of far away and future.
Merch Dolgoy-fach
hwyliodd ymhell
gan hau haelioni
a chynhesrwydd Ceredigion
yn llenwi ei chalon.”
“O Cranogwen!”
They cried when offering her the helm,
carved of memory,
ritual soaking into wood.
Hi yn ei holl hynodrwydd
sy’n parhau i anadlu
bywyd yn y pridd.
Her words still echo through my trees
as they tell saplings the adventures
of a woman who would not waiver.
“She read my waters,
darllennodd pob deigryn
a gwau edafedd arian
rhwng atgof ac atgof,
hearing the whispers of the stars.
At night, I sent soothing waves,
tonnau hen, hen si-hei-lwli-mabi,
gently rocking her into dreams
of the deep. Secrets I shared as she slept
and Cranogwen woke with my sighs on her tongue.”
“Now I keep her. Our sweet Sara,
beloved of sea and shore,
yn un â’r tir a’i carodd,
her life a glimmering dream,
mewn urddas
gorffwysa in my earthen embrace,
daear a blodau,
root and seed,
kissing her bones.”
Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru a Casi Wyn, Bardd Plant Cymru.
Comisiynwyd y gerdd hon gan Llenyddiaeth Cymru ar achlysur dadorchuddio cerflun Cranogwen yn Llangrannog, 10 Mehefin 2023.
I wylio’r cerdd fideo ‘Dywed beth oedd ei chyfrinach?’, cliciwch ar y llun o Hanan a Casi isod.