Llên Pawb | Lit Reach
Prosiect cymunedol a ddarparodd gyfleoedd creadigol a chelfyddydol trwy lenyddiaeth i gyrraedd y bobl y mae arnyn nhw ein hangen ni fwyaf, a hynny drwy brosiectau sy’n gwir ateb eu hanghenion.
Cefndir
Mae cyfran uwch o bobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU. Roedd 23% o bobl yng Nghymru – tua 700,000 o bobl – yn byw mewn tlodi o 2012-2015, ac effeithiwyd ar nifer gynyddol o bobl o oedran gweithio. Mae symudedd cymdeithasol wedi’i gyfyngu, a cheir lefelau uchel o salwch meddwl ar y cyd â chyfraddau llythrennedd isel.
Mae profion clinigol wedi dangos bod darllen ac ysgrifennu creadigol yn fuddiol i’n llesiant, yn gorfforol ac yn feddyliol. Gall helpu i wella sgiliau cyfathrebu gan annog pobl i ymgysylltu â chymdeithas yn fwy llwyddiannus. Gall creadigrwydd ysbrydoli newid parhaol trwy addysgu, archwilio a herio materion yn ein hamgylcheddau.
Cliciwch yma i ddysgu rhagor am weithgareddau Llên Pawb | Lit Reach
Llên Pawb | Lit Reach
Darparodd Llên Pawb gyfleoedd i lenyddiaeth fod o fudd i iechyd a lles y bobl y mae arnyn nhw ein hangen ni fwyaf. Bu Llenyddiaeth Cymru yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Eryri i nodi grwpiau penodol o bobl a fyddai’n elwa o fod yn rhan o’r prosiect. Darparodd rhaglen o weithdai a digwyddiadau gyfleoedd i weithio’n agos â llenorion, gyda’r nod o gael effaith gadarnhaol ar les yr unigolion a gymerodd ran. Cafodd yr gweithdai a’r digwyddiadau eu teilwra i gynyddu lefelau llythrennedd, cyflogadwyedd, cynhwysiant cymdeithasol, dysgu gydol oes, hyder personol a gwydnwch.
— Cynnydd mewn sgiliau llythrennedd a chyfathrebu
— Mwy o hunan hyder
— Gwelliant mewn iechyd meddwl a lles
— Rhagor o gysylltiadau cymdeithasol
— Cynnydd mewn cyflogadwyedd
Roedd y grwpiau yn y gymuned y gweithwyd â nhw yn cynnwys dioddefwyr cyflyrau megis MS a phoen cronig, i henoed mewn perygl o brofi unigedd ac unigolion digartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Darparodd Llenyddiaeth Cymru hyfforddiant fel rhan o’r prosiect a roddodd y sgiliau angenrheidiol i griw newydd o lenorion i arwain gweithgareddau llenyddol er budd iechyd a lles ein cymunedau.
Ariannwyd Llên Pawb gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda chyllid gan wyth Awdurdod Lleol – Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Caerffili, Casnewydd, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen yn ogystal ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Bu Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda’r partneriaid hyn i lywio’r prosiect.