Dewislen
English
Cysylltwch

Drwy gydweithio ag Uned Celfyddydau Cymunedol Sir Ddinbych a sefydliad Men’s Shed, gwahoddodd Llên Pawb y therapydd barddoniaeth Jill Teague draw i Men’s Shed, Y Rhyl i arwain cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gyda grŵp o ddeg o ddynion rhwng 19 ac 80 mlwydd oed.

Yn ogystal ag ysgrifennu, roedd y gweithgareddau’n cynnwys adrodd a rhannu straeon a thasgau creadigol gweledol megis creu gludweithiau.

 “Ro’n i wrth fy modd hefo sesiynau Jill. Dwi wedi dechrau meddwl am eiriau a straeon ac mae’r gweithdai wedi fy helpu i ymlacio.”

Nôl i Llên Pawb | Lit Reach