Y Broses Ymgeisio
Rydym wedi creu fersiynau dyslecsia gyfeillgar a print bras o’r alwad agored ac o’r cwestiynau cyffredin gan ddefnyddio Word. Rydym hefyd wedi creu fersiwn Word o’r ffurflen gais fel bod modd i chi ddarllen y cwestiynau cyn mynd ati i’w llenwi.
Mae rhain oll ar gael o’r dudalen Lawrlwytho.
Y Cwrs
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros blatfform digidol Zoom a bydd pob gweithdy digidol yn para 2.5 awr, gydag egwyl yn y canol. Os oes angen at ddibenion mynediad, gellir recordio sesiynau er mwyn galluogi cyfranogwyr eu gwylio yn ôl yn eu hamser eu hunain.
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu dogfen hygyrchedd i bob ymgeisydd llwyddiannus, er mwyn holi am unrhyw ofynion mynediad sydd gennych. Byddwn yn cynnig cymorth digonol lle bo angen. Er enghraifft, gallwn drefnu gwasanaeth capsiwn byw neu ddehonglydd BSL i fod yn bresennol yn ystod y sesiynau. Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i sgwrsio neu ateb gwestiwn cyn y cwrs er mwyn sicrhau bod y cwrs mor hygyrch, cyfforddus a phleserus ac sydd yn bosib i bawb.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru ar y cwrs hwn ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.
Isod ceir crynodeb o’r cwrs ar ffurf fideo mewn Iaith Arwyddo Prydeinig (BSL).