Dewislen
English
Cysylltwch

Prosiect sy’n cynnig cyfresi o weithdai creadigol ar gyfer unigolion sy’n cael eu heffeithio gan ddibyniaeth yw Ar y Dibyn. Mae pwyslais y prosiect ar hybu hunan-barch a chreadigrwydd y cyfranogwyr mewn cyfres o dasgau byr a dychmygus. Does dim atebion anghywir, dim ond posibiliadau a chyfle i weld y gorau yn ein gilydd. 

Mae Ar y Dibyn am roi llais i brofiadau o ddibyniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a chreu gweithiau celfyddydol sy’n ysgytwol a thyner. Yr uchelgais yw rhannu y deunydd creadigol ysbrydoledig sy’n deillio o’r prosiect gyda chynulleidfaoedd gan gyfoethogi dealltwriaeth ac empathi cymdeithas yn ehangach. 

Mae gennym oll brofiadau amrywiol o ddibyniaeth ac mae brwydrau personol pob unigolyn sy’n dod yn rhan o’r prosiect yn cael eu parchu a’u cadw’n ddiogel. Mae arbenigwyr iechyd proffesiynol ym mhob sesiwn i roi cyngor a chefnogaeth os yw’r angen yn codi. 

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru, Adra (Tai) a’r artist arweiniol Iola Ynyr gyda chefnogaeth Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Ardal Gogledd Cymru. Derbyniodd y prosiect gefnogaeth rhaglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil Pobl (HARP) yn 2021 – 2022, a gyllidir gan Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta). 

Sefydlwyd y prosiect yn wreiddiol fel ‘Sgwennu ar y Dibyn’, yn rhan o Gynllun Llên er Lles Llenyddiaeth Cymru yn 2019, mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon a Theatr Genedlaethol Cymru. 

 

 

 

Nôl i Ein Prosiectau