Cyhoeddwyd yn Awst 2015 y bu Llenyddiaeth Cymru yn llwyddiannus wrth sicrhau un o dri grant yn y DU ynghlwm â rhaglen peilot Cymrodoriaeth Gwaith Celf – Y Safbwynt Trefnu. Dechreuodd y rhaglen a gydlynir gan Barbican, Guildhall fel rhan o Artworks London, yn Hydref 2015 a bydd yn parhau hyd at Hydref 2016.
Yn wreiddiol, datblygwyd rhaglen Cymrodoriaeth ArtWorks London ym Mai 2013 mewn cydweithrediad â sawl artist fel ‘llwybr dysgu pwrpasol’ a fyddai yn targedu eu hanghenion proffesiynol, penodol nhw mewn modd anffurfiol. Roedd peilot 2013 yn cynnwys cyfleoedd Datblygu Proffesiynol Parhaus yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio, mentora a chyfleoedd labordy.
Yn dilyn nawdd pellach gan raglen Open Grants y Paul Hamlyn Foundation, bu modd datblygu’r model yma ar y cyd â thri sefydliad celfyddydol a’u paru ag artist o’u dewis. Yr artist a ddewiswyd gan Llenyddiaeth Cymru yw Rufus Mufasa.
Llenyddiaeth Cymru a Rufus Mufasa
Bydd Cymrodoriaeth ArtWorks yn datblygu sgiliau Rufus, yn codi ei phroffil drwy gysylltiadau â’r byd cyhoeddi, ac yn ei chynorthwyo i feithrin cysylltiadau rhyngwladol gydag addysgwyr a chynhyrchwyr hip hop yn Efrog Newydd a Chanada. Ei huchelgais yw cryfhau statws addysg amgen yng Nghymru. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn meithrin a dathlu creadigrwydd artistiaid a chyfranogwyr mewn modd a fydd yn cyfoethogi iaith a llenyddiaeth a’u gwneud yn fwy hygyrch.
Bydd rhaglen Cymrodoriaeth Barbican yn helpu cefnogi Llenyddiaeth Cymru a Rufus Mufasa i ddatblygu prosiect cydweithredol a fydd yn ymgysylltu’n addysgiadol â phobl ifainc drwy hip hop a pherfformio barddoniaeth. Bydd y model yma hefyd yn archwilio a datblygu’r bartneriaeth gydagUrban Word New York, sefydliad sy’n arbenigo mewn addysg blaenachubol trwy ddefnyddio hip hop neu berfformio barddoniaeth, ac i adeiladu ar lwyddiant prosiect Slam Cymru a ariannwyd gan Garfield Weston Fundation.
“Rwy’n falch iawn o dderbyn y Gymrodoriaeth a bod fy ngwaith ac fy ngweledigaeth yn cael eu dderbyn a’u gwerthfawrogi. Rwy’n edrych ymlaen am flwyddyn gyffrous, gelfyddydol greadigol, hudolus gerddorol sydd o fy mlaen dan adain Barbican a Llenyddiaeth Cymru. Diolch.”
– Rufus Mufasa
Fel rhan o’r prosiect mae Rufus yn creu blog misol. Mae’r cofnodion (Saesneg) i’w gweld isod:
Site Specific Poetry Blog 1: Interbooks, Pontypridd
Cadwch lygad ar daith Rufus ar Twitter @rufusmufasa, instagram ac ar sianel YouTube, Poetry Pump Productions