‘Mae fy mywyd wedi bod yn antur, a rwyf am iddo barhau i fod yn anturus’ – Margaret, Caerffili.
Fel hyn y dechreua un o’r ffilmiau a grëwyd fel rhan o Blas ar fywyd | Gusto por la vida | A Taste for Life, prosiect Tandem Europe sy’n ffrwyth cydweithio rhwng Llenyddiaeth Cymru a Solidarios Para el Desarrollo yn Sbaen.
Y Prosiect
Rhwng 2017 a 2018, bu Llenyddiaeth Cymru a Solidarios para el Desarrollo yn cydweithio ar gynllun rhyngwladol newydd ac arloesol gyda’r nod o fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ymysg pobl hŷn. Defnyddiodd Blas ar fywyd | Gusto por la vida | A Taste for Life dechnegau adrodd stori a’r diddordeb lleol a rhyngwladol sydd gan bobl mewn bwyd i roi llais i bobl hŷn a dangos eu rôl bwysig yn y gymuned. Ar gyfer y prosiect amlieithog (Cymraeg/Saesneg/Sbaeneg), casglwyd chwe stori unigol, tri gan bobl yng Nghymru a thri o Sbaen, gan ddefnyddio hoff ryseitiau fel sylfaen i rannu straeon am eu bywydau, cymunedau a’u diwylliannau gydag eraill.
Dywedodd Jacinta, un o’r cyfranogwyr o Sbaen: “Roeddwn i’n teimlo’n dda trwy gydol y weithgaredd, ac yn hapus dros ben. Fel arfer fe fyddaf i’n treulio’r rhan fwyaf o’r diwrnod yn poeni am wahanol bethau, ond ar ddiwrnod y prosiect, tra mod i’n coginio ac yn dweud fy stori, anghofiais i am bopeth arall ac fe gefais i amser gwych!”
Ar 15 Tachwedd 2018, fe lansiwyd tudalen Facebook y prosiect, lle bydd pobl dros y byd yn gallu gweld fideos y cyfranogwyr, gwrando ar a darllen eu straeon amrywiol, a dilyn eu ryseitiau. Yn ogystal, gellid darllen cerddi gan Mike Church a clare e. potter, a ysbrydolwyd gan fywydau’r bobl hŷn y buont yn sgwrsio â hwy.
Mae mynd i’r afael ag unigrwydd ymysg pobl hŷn yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd cyhoeddus ledled yr Undeb Ewropeaidd, ac yn un o flaenoriaethau strategol Llenyddiaeth Cymru a Solidarios para el Desarrollo fel ei gilydd. Mae dros 1 miliwn o bobl yn byw ar ben eu hunain yng Nghymru, a bron i 2 filiwn yn Sbaen. Mae astudiaethau o’r UDA, Ewrop, Asia, ac Awstralia yn dangos fod unigrwydd yn fwy o fygythiad i iechyd cyhoeddus na gordewdra, ac y gallai gwell cysylltiadau cymdeithasol gael gostyngiad o 50% ar yr achosion o farwolaethau cynamserol.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rydym yn teimlo’n lwcus iawn o fod wedi cael cymryd rhan yn rhaglen Tandem Europe ac wedi elwa’n fawr o gael rhannu ymarfer da gyda a dysgu oddi wrth ein partneriaid, Solidarios Para el Desarrollo. Fel rhan o’r cynllun mae ein cydweithwyr wedi teithio o Bortiwgal i Deri, Milan i Gaerffili, ac o Fadrid i Gaerdydd. Rydym wedi rhannu omled Sbaenaidd, cawl ffacbys, tost a the, ond yn bwysicaf oll, rydym wedi clywed straeon a phrofiadau nifer o unigolion arbennig iawn. Edrychwn ymlaen at glywed rhagor trwy gadw llygad ar dudalen Facebook Taste for Life.”
Dywedodd Alfonso Fajardo Barreras, Cyfarwyddwr Solidarios Para el Desarrollo: “Mae’r rhaglen Tandem Europe wedi bod yn gyfle i rannu’r gwaith rydym yn ei gyflawni ac i ddarganfod, dysgu, a chael ein ysbrydoli gan waith Llenyddiaeth Cymru. Mae wedi ein galluogi i fod yn fwy creadigol, arloesol a datblygu menter newydd na fyddai wedi dwyn ffrwyth heb y cydweithio hwn. Yn olaf, mae wedi galluogi’r bobl hŷn rydym yn gweithio â hwy i deimlo fel prif gymeriadau mewn profiad rhyngwladol: yr hyn y maent yn ei deimlo a’i rannu â ni, dyna yw’r peth pwysicaf.”
Tandem Europe
Dewiswyd Llenyddiaeth Cymru i gynrychioli Cymru yn y rhaglen boblogaidd, Tandem Europe – cynllun cydweithio traws ffiniau sydd â’r nod o gyflwyno newidiadau cymdeithasol trwy weithgareddau arloesi diwylliannol.
Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â chymuned o arloeswyr diwylliannol a chymdeithasol, yn darganfod cyfleodd rhwydweithio, a chyd-ddatblygu cynlluniau traws ffiniau. Trwy gyd-ddatblygu’r prosiect hwn mae Llenyddiaeth Cymru a Solidarios Para el Desarrollo wedi rhannu arbenigedd a gwybodaeth mewn meysydd megis recriwtio gwirfoddolwyr, gweithio gydag artistiaid proffesiynol, ehangu cynulleidfaoedd trwy blatfformau digidol, a thechnegau ar gyfer dangos effaith a chanlyniadau ein gwaith.