Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd

Pob blwyddyn, bu Llenyddiaeth Cymru yn herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.

Ers ei sefydlu yn 2012, cynnigodd yr her gipolwg ar Gymru ar y diwrnod hwnnw – ei gwleidyddiaeth, ei diddordebau, ei newyddion a’i diwylliant. Ymysg y 600 o gerddi a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd mae cerddi serch a cherddi dychan; cerddi ar gerddoriaeth a cherddi ar y cyd; cerddi am borc peis, babanod newydd a hyd yn oed ffrae epig rhwng John ac Alun a’r Brodyr Gregory.