Dyma berfformiad aml-gyfrwng, gwreiddiol, gan aelodau cyfarwydd â newydd Cywion Cranogwen sef Beth Celyn, Manon Awst a Sara Borda Green. Drwy gyfuno celf weledol, cerddoriaeth a cherddi mae lleisiau’r tair yn cydblethu i archwilio safbwyntiau gwahanol o gyfnodau o ryfel a heddwch. Gwreiddia’r safbwyntiau ym mhersbectif merched o Gymru – o’r mamau a’r gwragedd sy’n cael eu gadael ar ôl i’r merched gweithredol a lenwodd y gwacter wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf gyda’u hymgyrch dros heddwch a chydraddoldeb. Ymestynna’r persbectif cyn belled â Phatagonia yn yr Ariannin – gwlad enedigol Sara Borda Green, cyw diweddaraf y colectif.
Ewch i waelod y dudalen hon i islwytho a darllen cerddi Beth Celyn, Manon Awst a Sara Borda Green.
Mae Cywion Cranogwen yn bic ‘n mics melys o feirdd, cantorion ac artistiaid sy’n mynd a theithiau barddol unigryw ar hyd a lled Cymru. Dechreuant eu taith yn Eisteddfod Ynys Môn ym mis Awst 2017 gyda’u sioe ‘Corddi’ cyn parhau i gorddi ar daith dros y gaeaf a’r flwyddyn newydd mewn lleoliadau fel Dinbych, Caernarfon a Llangrannog. Maen nhw wedi perfformio mewn digwyddiadau megis Gŵyl Arall, Gŵyl Gelfyddydol “I’r Môr” ac wedi perfformio eu hail sioe farddol wreiddiol ‘Llifo’ yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2018. ‘O Ysbaid i Ysbaid’ yw eu trydedd sioe farddol wreiddiol.