Mae Dafydd ap Gwilym, Waldo Williams, Kate Roberts, Hedd Wyn, Gwyn Thomas, Eifion Wyn, Daniel Owen, Dewi Prysor, Fflur Dafydd, Llwyd Owen, ac Angharad Price i gyd wedi eu hysbrydoli gan rannau penodol o dirwedd Cymru, ac wedi ysgrifennu am y tirlun a’u hysbrydolodd, a bro eu mebyd neu’r ardaloedd lle buont yn byw.
O Fôn i Fynwy, o gopa’r Wyddfa i ddinas Caerdydd, o Ynys Enlli i Bwllderi, o Gwm Pennant i Ystrad Fflur, mae Cymru yn llawn lleoliadau hudolus, sy’n dod yn fyw yng ngeiriau ei hawduron.
“…Yn llif y nant; yng ngoleddf y mynydd; yn y blagur a’r blodau; yn nyfodiad gwenoliaid i’r murddun ym mis Mai; yng nghylch y tymhorau ac yng ngweithgaredd tymhorol y fferm; yng ngeni’r ŵyn; yng nghneifio’r defaid; yn lladd y gwair a’i fedi; yn nhorri’r rhedyn ar lethrau Foel Dinas a’r Foel Bendin.
Ceisiais weld fy mharhad yn llonyddwch digyfnewid cwm Maesglasau. …”
Dyfyniad o gyfrol O! tyn y gorchudd (Gomer, 2002) gan Angharad Price
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithredu fel asiantaeth twristiaeth cenedlaethol Cymru. Rydym yn gweithio i sicrhau bod awduron o Gymru yn fwyfwy amlwg ar lwyfan bydeang, ac yn buddsoddi yn ein economïau creadigol a chefn gwlad. Rydym yn mynd ag ymwelwyr i galon tirwedd llenyddol Cymru, yn cynllunio profiadau sy’n cynnig cyfuniad grymus, sef barddoniaeth, rhyddiaith, bwyd, diod a lleoliadau gorau Cymru.
Dim ond lleuad borffor
ar fin y mynydd llwm.
A sŵn hen afon Prysor
yn canu yn y cwm.
Darn o ‘Atgof’ gan Ellis Evans (Hedd Wyn)
Mae llawer o’n gwaith mewn partneriaeth gyda chyrff cenedlaethol eraill megis Cadw, awdurdodau’r parciau cenedlaethol, Visit Wales, Amgueddfa Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Rydym yn cynnig:
- Gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim i’r rhai hynny sy’n cynllunio eu hanturiaethau llenyddol eu hunain
- Cynllunio teithiau llenyddol arbenigol wedi’u teilwra ar gyfer cwmnïau teithio neu grwpiau preifat
- Cefnogaeth, arweiniad a phartneriaeth ar gyfer prosiectau twristiaeth lenyddol sefydliadau neu gyrff eraill
Cysylltwch â ni os hoffech drafod ein gwasanaethau ymhellach: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org