Roedd y sgwadiau yn croesawu plant sy’n dangos dawn newu addewid yn eu ysgrifennu creadigol, beth bynnag eu cefndir a’u perfformiad academaidd.
Fel rheol cafodd y plant hyn eu dethol pan maent tua 9 – 10 oed gyda phrifathrawon ym mhob awdurdod lleol yn adnabod awduron ifanc talentog a brwdfrydig. Roedd ymgynghorwyr addysg yn gwneud y dewisiadau terfynol, a roedd pob Sgwad yn cwrdd, fel rheol, oddeutu tair neu bedair gwaith y flwyddyn ar gyfer sesiynau hyfforddi gan lenorion sydd â’r sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i weithio gyda’r ifanc. Y gobaith yn dilyn hynny oedd cadw’r Sgwad hwnnw gyda’i gilydd hyd ddiwedd eu dyddiau ysgol.
Mae Sgwadiau ‘Sgwennu’r Ifanc wedi bod o fudd i bobl ifanc drwy:
- Gynnig cyfleoedd i weithio gyda llenor proffesiynol y tu hwnt i amgylchedd y dosbarth
- Annog pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau creadigol ac ysgrifennu
- Ddarparu cyfleoedd i gwrdd a chymdeithasu gyda phobl ifanc o ysgolion eraill
- Ddangos fod ysgrifennu creadigol yn weithgaredd cymdeithasol a hwyliog
- Cynyddu hyder pobl ifanc yn eu gwaith
- Galluogi pobl ifanc i ymateb yn greadigol, beirniadol ac emosiynol i’r byd o’u cwmpas
- Datblygu sgiliau llythrennedd trwy greadigrwydd
Mae gweithgaredd Sgwad ‘Sgwennu arferol yn cynnwys gweithdy diwrnod o hyd gydag awdur proffesiynol mewn lleoliad wedi’i drefnu gan arweinydd y Sgwad. Roedd y gweithdai wedi eu targedu ar gyfer y grŵp oedran penodol hwnnw ac yn canolbwyntio ar greu gwaith newydd – unai yn unigol neu mewn grŵp.
Yn ogystal mae’r Sgwadiau ‘Sgwennu wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol, yn aml i gyd-fynd â gwyliau neu ddigwyddiadau mawr eraill. Rheolir y cyfleoedd ychwanegol hyn gan Llenyddiaeth Cymru. Roedd partneriaid ar gyfer digwyddiadau ychwanegol yn y gorffennol yn cynnwys:
- Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Maniffesto Pobl Ifanc, prosiect dros Gymru gyfan fel rhan o gynllun Awdur Pobl Ifanc Cymru
- Kids Take Over – partneriaeth gyda British Council
- Gŵyl y Gelli
- Eisteddfod Genedlaethol
- Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr
Mae pobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o’r Sgwadiau ‘Sgwennu wedi symud ymlaen i ennill cystadlaethau ysgrifennu, wedi derbyn swyddi yn y sectorau celfyddydol, cyhoeddi a llenyddiaeth ac mae sawl un wedi ennill prif wobrau llenyddol yn Eisteddfod yr Urdd a’r Genedlaethol.
Os oes gyda chi ddiddordeb sefydlu Sgwad ‘Sgwennu yn eich ardal chi, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org