Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, yn gyfle datblygiad proffesiynol i awduron o Gymru, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Nodwch os gwelwch yn dda bod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Awduron wrth eu Gwaith 2024 bellach wedi pasio.

Bydd y cyfle datblygu proffesiynol hwn i awduron o Gymru yn digwydd yn ystod Gŵyl y Gelli (23 Mai – 2 Mehefin) o ddydd Gwener 24 Mai i ddydd Sul 2 Mehefin 2024. Bydd y rhaglen 10 diwrnod o hyd yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fynychu dosbarthiadau meistr, gweithdai ac i rwydweithio gydag awduron, cyhoeddwyr, asiantaethau ac aelodau o’r wasg o Gymru, y DU a thu hwnt.

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan awduron ffuglen (pob genre), awduron ffeithiol-greadigol, a beirdd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw’r rhaglen hon wedi ei hanelu at ddramodwyr nag awduron sgript sgrin. Bydd awduron cymwys yn awduron o Gymru (wedi eu geni, eu haddysgu neu yn byw ar hyn o bryd yng Nghymru) sy’n dangos ymrwymiad clir tuag at ddatblygiad proffesiynol gan ddangos tystiolaeth o gyhoeddi, waeth pa mor fychan, mewn print neu ar-lein. Gall gyfranogwyr fod yn awduron sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd llenyddol neu yn awduron canol-gyrfa sydd angen cefnogaeth i gyrraedd cam nesaf eu gyrfaoedd.

Nid oes cyfyngiad oedran, tu hwnt i’r lleiafswm oed o 18, ac y mae 10 lle ar gael.

Darllen mwy

Gallwch ddarllen rhagor am yr awduron oedd yn rhan o’r cynllun yn 2023 yma.

(Hawlfraint lluniau: Billie Charity & Adam Tatton-Reid)