Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau newydd ar gyfer Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2026, eu cyfle datblygu proffesiynol i awduron o Gymru, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2.00 pm, dydd Iau 26 Chwefror 2026.

Bydd y cyfle datblygu proffesiynol hwn i awduron o Gymru yn digwydd yn ystod Gŵyl y Gelli (21 Mai – 31 Mai) o ddydd Gwener 22 Mai i ddydd Sul 31 Mai 2026. Bydd y rhaglen 10 diwrnod o hyd yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fynychu dosbarthiadau meistr, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio gydag awduron, cyhoeddwyr, asiantaethau ac aelodau o’r wasg o Gymru, y DU a thu hwnt.

Bydd y gweithgareddau a’r cyfleoedd rhwydweithio yn ystod y 10 diwrnod yn canolbwyntio’n bennaf ar ysgrifennu ffuglen a gwaith ffeithiol greadigol i oedolion a byddant yn cael eu cynnal yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg; ond fe groesawir ceisiadau gan feirdd, ac unigolion sy’n ysgrifennu ar gyfer oedolion ifanc. Anogir yn benodol awduron sy’n ysgrifennu’n y Gymraeg, ac awduron sy’n defnyddio’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol i ymgeisio. Noder nad yw’r rhaglen hon wedi’i hanelu at sgriptwyr (llwyfan na sgrin). Bydd awduron cymwys yn awduron o Gymru (wedi’u geni, eu haddysgu, neu’n byw ar hyn o bryd yng Nghymru) sy’n dangos ymrwymiad clir tuag at ddatblygiad proffesiynol a gyda  thystiolaeth o gyhoeddi.

Gall cyfranogwyr fod yn awduron sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd llenyddol sydd o ddifrif am ddatblygu’n broffesiynol, neu’n awduron yng nghanol eu gyrfa sy’n wynebu anawsterau gyda’u cyhoeddiad nesaf ac sydd angen cefnogaeth i gyflawni eu nodau gyrfaol. Mae Gŵyl y Gelli hefyd yn gwahodd ceisiadau gan awduron mwy profiadol sy’n teimlo eu bod eisoes wedi cyflawni popeth o fewn eu gallu o fewn un genre neu iaith, ond sy’n wynebu rhwystrau wrth gyflawni newid sylweddol yn eu gyrfaoedd. Mae’r panel asesu yn awyddus i glywed sut mae ymgeiswyr yn credu bod eu gwaith yn cyfrannu at dirwedd lenyddol gyfoes Cymru a sut bydd y rhaglen yn eu cefnogi ar yr union adeg hon yn eu gyrfaoedd.

Nid oes cyfyngiad oedran, tu hwnt i’r lleiafswm oed o 18, ac mae 10 lle ar gael.

Bydd yr ymgynulliad unigryw hwn o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Ngŵyl y Gelli yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fagu hyder, sgiliau ac i ffurfio rhwydweithiau gyda’u cyfoedion, gan adael y rhaglen wedi eu hysbrydoli i greu gweithiau newydd ac i gyflawni eu hamcanion personol.

Bydd rhaglen Awduron wrth eu Gwaith yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim ar gyfer y 10 awdur llwyddiannus. Bydd Ysgoloriaeth Awduron wrth eu Gwaith yn talu am lety, teithio o fewn Cymru neu’r DU, a chynhaliaeth yn ystod yr ŵyl. Mae safle’r ŵyl yn gwbl hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae dolenni anwythol (induction loops) ar gael ym mhob lleoliad perfformio. Caniateir cŵn tywys. Gŵyl y Gelli fydd yn trefnu’r llety, ond bydd angen i gyfranogwyr ofalu am eu trefniadau teithio eu hunain; a bydd y costau hyn yn cael eu had-dalu.

Nôl i Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli