Cwestiynau Cyffredin
Yn bennaf, rydym yn awyddus bod egin awduron ac awduron sydd â pheth profiad ac o ddifrif am greu gyrfa broffesiynol i’w hunain yn elwa o’r cynllun hwn. Bydd y rhaglen ddwys hon yn eich helpu i ddatblygu’r dulliau a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau, a pharhau ar eich taith fel awdur.
Os ydych eisoes yn awdur profiadol, er enghraifft efallai eich bod wedi cyhoeddi llyfr neu bamffled, efallai y byddwch yn dal i ganfod bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai y byddwch am arbrofi gyda ffurf lenyddol neu iaith wahanol. Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth mae profiad yn ei olygu, a lle mae nhw’n credu y maent wedi eu gyrraedd ar eu taith fel awdur. Mae’r panel asesu yn awyddus i wybod sut gallai’r rhaglen eich cefnogi ar yr union adeg hon yn eich gyrfa.
Fodd bynnag, os ydych eisoes yn awdur profiadol, er enghraifft efallai eich bod wedi cyhoeddi llyfr neu bamffled, efallai y byddwch yn dal i ganfod bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai y byddwch am arbrofi gyda ffurf lenyddol neu iaith wahanol. Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth mae profiad yn ei olygu, a lle mae nhw’n credu y maent wedi eu gyrraedd ar eu taith fel awdur.
Bydd y panel asesu yn cynnwys aelodau o dîm Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru, a Tiffany Murray – curadur ac arweinydd y rhaglen. Byddwn yn chwilio am arloesedd, angerdd, a bwriad clir o ran eich dyheadau a’ch uchelgais fel awdur.
Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar sicrhau grŵp o awduron sydd yn amrywiol ac yn gynrychiadol o ran daearyddiaeth, profiad sgwennu, ieithoedd, ac unrhyw brofiad bywyd fydd wedi ei nodi yn y cais a fydd yn cynnig persbectif newydd i lenyddiaeth yng Nghymru. Bydd awduron sy’n cyrraedd rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad anffurfiol, byr ar-lein.
Byddwn yn cysylltu gyda’r holl ymgeiswyr yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau 6 Ebrill 2026.
Bydd y rhaglen yn dechrau prynhawn Gwener 22 Mai ar safle’r ŵyl, ac yn gorffen brynhawn Sul 31 Mai 2026. Bydd pob diwrnod yn wahanol, ac yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai, ymweliadau i ddigwyddiadau’r ŵyl, digwyddiadau gyda’r nos, a mwy. Disgwylir i chi fynychu pob digwyddiad a gynhelir yn ystod y dydd. Mae Awduron wrth eu Gwaith yn raglen ddwys sy’n dibynnu ar y grŵp yn cydweithio ac yn cefnogi ei gilydd. Mae staff Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion yn ymwneud â hyn cyn a drwy gydol yr ŵyl. Darperir rhagor o wybodaeth am strwythur a chynnwys yr wythnos cyn gynted â phosibl ymlaen llaw. Bydd rhagor o wybodaeth am strwythur a chynnwys yr wythnos yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosib o flaen llaw. Byddwch yn cwrdd â nifer o siaradwyr, darllenwyr a hwyluswyr gwadd, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r diwydiant yn ystod yr wythnos mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol.
Er bydd ymarferion ysgrifennu strwythuredig yn cael eu gosod gan rai awduron yn ystod eu gweithdai, ni fydd amserlen dynn y rhaglen yn gadael llawer o amser i chi ddatblygu eich gwaith creadigol ar y gweill. Y bwriad bydd i chi adael gyda sgiliau newydd, yn ogystal â’r syniadau a’r brwdfrydedd i barhau â’ch prosiectau ysgrifennu personol ar ôl i’r ŵyl ddirwyn i ben.
Byddwch yn derbyn eich prydau (brecwast, cinio, a swper) ar safle’r ŵyl yng nghyfleusterau arlwyo’r staff. Bydd darpariaeth ar gyfer rheiny ag alergeddau/anghenion dietegol. Bydd coffi, te, a diodydd eraill ar gael drwy gydol y diwrnod. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen i chi dalu am unrhyw fwyd neu diod fydd wedi eu prynu tu hwnt i gyfleusterau arlwyo’r staff arlwyo neu’r Ystafell Werdd.
Byddwn yn ad-dalu costau teithio un ffordd (ail ddosbarth) i’r (ac adre yn ôl o’r) ŵyl oddi mewn i Gymru neu’r DU.
Mae hyn yn cynnwys:
- Tocyn Trên Dwy Ffordd Safonol
- Tocyn Bws Dwy Ffordd Safonol
- Lwfans Petrol @ 45c y filltir
Gall Treuliau fod yn gyfuniad o’r uchod e.e. tocyn trên a bws. Gallwn brynu tocyn o flaen llaw ar eich rhan, neu gallwch gadw derbynneb, fel arall gallwch lenwi ffurflen arian petrol a bydd eich costau teithio yn cael eu ad-dalu pan fyddwch chi’n cyrraedd yr ŵyl.
Bydd y cyfranogwyr yn derbyn llety mewn tai yn y Gelli Gandryll neu’r ardal gyfagos, yn dibynnu ar argaeledd. Bydd y llety yn darparu ystafell ar gyfer un person yn unig mewn tai fydd yn cael eu rhannu gydag aelodau eraill o garfan Awduron wrth eu Gwaith.
Yn anffodus ni fedrwn ni groesawu aelodau o’ch teulu na ffrindiau yn ystod yr encil, na sicrhau ystafelloedd ensuite gan fod prinder gofod llety yn ystod yr ŵyl.
Yn anffodus, oherwydd ein bod yn disgwyl nifer helaeth o geisiadau, ni fyddwn yn gallu rhoi adborth i bob cais aflwyddiannus. Serch hynny, gyda’ch caniatâd, fel a amlinellir yn adran GDPR y ffurflen gais, efallai y bydd Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru yn dymuno cysylltu â chi eto i drafod cyfleoedd pellach.
Mae’r rhaglen yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu yn Saesneg ac yn Gymraeg. Serch hynny, bydd mwyafrif y rhaglen yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae timoedd Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw ofynion mynediad neu ofidiau sydd gennych cyn ac yn ystod y cwrs. Mae safle’r ŵyl yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae gofodau digwyddiadau â dolenni sain (induction loops). Rydym yn caniatáu cŵn tywys. Os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni i drafod hygyrchedd, a byddwn yn gwahodd pob awdur i anfon ffurflen Anghenion Mynediad cyn i’r ŵyl ddechrau.