Dewislen
English
Cysylltwch

Cwblhewch y ffurflen gais ddigidol hon. Gellir lawrlwytho fersiwn print bras a dyslecsia gyfeillgar yma. Bydd y ffurflen gais yn gofyn am y canlynol:

Noder: os ydych chi’n gwneud cais drwy’r ffurflen ddigidol ac heb gwneud cais gyda Llenyddiaeth Cymru yn ystod y 6 mis diwethaf, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru fer cyn cael mynediad at ffurflen gais Awduron wrth eu Gwaith. 

  • Manylion o’ch cyhoeddiadau.
  • Bywgraffiad awdur – yn cynnwys eich profiadau proffesiynol ac uchafbwyntiau eich gyrfa (dim mwy na 200 gair).
  • Datganiad yn amlinellu eich amcanion a’ch uchelgeisiau a sut y bydd lle ar y cynllun Awduron wrth eu Gwaith yn cefnogi hyn (dim mwy na 300 gair).
  • Amlinelliad byr o brosiect cyfredol, neu waith ar y gweill, a gwybodaeth am sut bydd y gwaith yn cyfrannu at dirwedd lenyddol gyfoes Cymru (dim mwy na 300 gair).

Dim ond ceisiadau digidol a dderbynnir, un ai drwy’r ffurflen ddigidol, neu dros e-bost os y byddwch yn cyflwyno fersiwn print bras neu ddyslecsia gyfeillgar. Dylid eu hanfon at writers@hayfestival.org.

Ni fydd ceisiadau a anfonir drwy’r post a cheisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

I ddysgu mwy am y broses ymgeisio a dethol, ac i gael trosolwg manylach o’r rhaglen, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

TELERAU AC AMODAU:
Nod yr wythnos yw ehangu creadigrwydd, ehangu allbwn, a ffurfio rhwydwaith gefnogol o gyfoedion a chysylltiadau llenyddol a chyhoeddi. Bydd gofyn i chi ymrwymo ar gyfer y rhaglen gyfan, sy’n rhedeg o’r bore bach hyd at fin nos ar ambell ddiwrnod.

Mae’r ŵyl yn darparu llety fel rhan o’r ysgoloriaeth (wele’r Cwestiynau Cyffredin am wybodaeth bellach), a bydd gofyn i’r awduron aros yn y Gelli Gandryll o ddydd Gwener 22 Mai (cyrraedd yn y prynhawn), a gadael ar nos Sul 31 Mai 2026. Bydd y rhan fwyaf o’r gweithdai’n dechrau am 10.00 am yn ddyddiol.

Bydd disgwyl i bob awdur gwblhau gwerthusiad llawn a manwl o’r wythnos ac ysgrifennu ar gyfer blog Gŵyl y Gelli yn ystod wythnos yr ŵyl.

Ar ôl darllen y Cwestiynau Cyffredin, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â: writers@hayfestival.org

Nôl i Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli