Bàrd / File / Bardd
Cywaith barddoniaeth digidol newydd yw Bàrd, File, Bardd ble mae beirdd o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wedi dod ynghyd i rannu ac archwilio cysylltiadau a dynameg ieithoedd Gaeleg yr Alban, Cymraeg a Gwyddeleg. Mae’r teitl yn cyfuno’r gair am ‘bardd’ yn y tair iaith dan sylw.
Penllanw’r cydweithrediad yw casgliad o naw cerdd fideo newydd sy’n archwilio themâu cyfoes a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan dri bardd, un o bob gwlad.
Y beirdd sy’n cydweithio ar y prosiect yw Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn, Awdur Preswyl Prifysgol Dinas Dulyn a Llysgennad Áras na Scríbhneoirí Ciara Ní É, a’r awdur, darlledwr a darlithydd ym Mhrifysgol St Andrews Pàdraig Mac Aoidh. Yn ystod eu cydweithrediad, mae’r tri bardd wedi archwilio gwahanol safbwyntiau ar ieithoedd Gaeleg yr Alban a Gwyddeleg a Chymraeg. Mae eu gwaith hefyd yn archwilio hunaniaethau a sut mae’r ieithoedd hyn yn parhau i esblygu ac addasu i’r byd modern.
Cynhaliodd y beirdd gyfres o weithdai digidol, dan arweiniad y ganolfan iaith a diwylliant ym Melffast, Cultúrlann McAdam Ó Fiaich. Sbardun y gweithdai oedd y cysyniad o “famiaith”, ac yr hyn mae yn ei olygu i bobl o wahanol gymunedau a phrofiadau ieithyddol, yn enwedig o fewn cyd-destun dwyieithog. Comisiynwyd y beirdd i ysgrifennu tair cerdd yr un yn dilyn y gweithdai, ac maent wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr amlgyfrwng arobryn Ian Rowlands, y golygydd fideo a chyfansoddwr Jason Lye-Phillips a’r animeiddiwr Pól Maguire i greu’r fideos.
Datblygwyd y prosiect yn wreiddiol fel sioe fyw wedi’i ysbrydoli gan Flwyddyn Ieithoedd Cynhenid UNESCO y llynedd. Y bwriad oedd teithio sioe i leoliadau a gwyliau yn y gwahanol wledydd, ond datblygodd ar ffurf digidol oherwydd pandemig Covid 19.
Mae’r cerddi’n cael eu rhyddhau isod gyda dewis o isdeitlau Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Cymraeg, Sgoteg a Saesneg o 1 Hydref 2020, Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol, hyd 13 Hydref.