Dewislen
English
Cysylltwch

Pan ddiflanna gwres grât yr haf

llithra’r oerfel mewn yn gusanau digroeso i gyd.

Dos i nôl blancedi, hel y cardiganau,

troi’r ddeial am i fyny

-gan bwyll, dim gormod!

 

Goleua gannwyll yn lle lamp, f’annwylyd.

Sawra flas tomatos a sglodion hallt.

Suo’r sychwrs gwallt, hyd yn oed.

Achos pan fydd y gwresogyddion yn crynu’n effro, a’r

ambr euraid yn lledu cannwyll llygaid, a chwyddwyd gan arwyddion £,

mae’r byd blinedig hwn mewn twymyn wrth wylio’i bobl yn fferru.

 

O Geridwen, cynnull y cymdogion wrth al misha’al.

Tyrd, cadwasom le i ti wrth yr aelwyd.

Cana gân i ni am sosbannau bach a gobeithia

na ddown ni byth o hyd i’r geiriau: “Pan weli fi, wyla” ar wal yn rhywle.

 – Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru
Cyfieithwyd gan Grug Muse

Global Warming

the cold creeps in, all unwelcome kisses.

So get the blankets, get the cardies,

start turning up the dial

-no that’s too much!

 

Light a candle not a lamp, my love.

Savour the taste of tomatoes and salty chips.

Even the hum of hairdryers.

For when the heaters shiver alive and that sallow

golden amber dilates pupils swollen with £ signs,

this tired world fevers watching its people freeze.

 

Ah Ceridwen, gather the neighbours around al misha’al.

Come, we have saved you a space near yr aelwyd.

Sing us songs of little sosbans and hope that we never find:

“When you see me, cry” scratched into a wall somewhere.

***

Bydd llawer yn ei chael hi’n anodd cadw’n gynnes dros y gaeaf a bydd gallu’r wlad i gynhyrchu nwyddau fel halen a thomatos yn lleihau’n fawr. 

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar y wefan hon neu cysylltwch â chynghorwyr heddiw drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim ar 0800 702 2020.

Ewch i wefan Advicelink Cymru lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am gael cymorth.

Nôl i Cerddi Comisiwn a Gwaith Creadigol Hanan Issa