Dy Ddal Di
“Gwylia’r teigrod, shunar beti1”,
yw dy rybudd o hyd wrth i mi adael y ’sbyty.
Fel ’tae holl winwydd jyngl Molibasâr wedi
cordeddu am strydoedd y Mynydd Bychan
a theigrod yn crwydro trwch blodau ceirios y ffyrdd.
Rhaid i mi wylio dy oleuadau bach yn diffodd.
Bob yn un, mae dy atgofion yn disgyn yn araf
o’r silff, fel y bydd corryn yn llusgo pry
rhwng gwybod a dryswch a sicrwydd
dro ar ôl tro ar ôl tro.
Yr un peth sy’n dy boeni bob tro y bydda i’n setlo ar dy setî:
“Ddalltist di’u bod nhw wedi cymryd fy nghar i ’nôl?”
Fel ’tae’r blynyddoedd o wibio yma ac acw
ar negeseuon y teulu’n ddim oll erbyn hyn
â thithau’n drysu weithiau rhwng chwith a dde.
Rwyt ti’n llenwi dy bared ag wynebau, heb eu nabod,
ac mae pob oedi cyn i ti fy enwi’n llosgi.
Rwy’n addo dy ddal fel Abba, fel Mam-gu –
yn trwsio car, yn taenu menyn ar fy nhost.
Hanan Issa
Bardd Cenedlaethol Cymru | National Poet of Wales
(I nodi Diwrnod Alzheimers y byd, 21 Medi 2022. Cyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne.
1Gair anwes Bengalaidd sy’n golygu ‘merch euraidd’)