Dewislen
English
Cysylltwch

Ardal o gorstir yn Nasiriyah, Iraq yw’r Hammar. Sychodd Saddam y tiroedd hyn er mwyn rheoli Arabiaid y Corsydd. 

Mae Capel Celyn yn ardal yng Ngogledd Cymru a foddwyd ym 1965, er mwyn darparu rhagor o ddŵr i ddinas Lerpwl…  

Dychmyga wagio holl gorsydd Hammar 

i foddi Capel Celyn: cyfnewidfa ddagrau, 

hel pobl o le i le fel darnau gwyddbwyll. 

Sbecia rhwng siffrwd meddal cudynnau’r brwyn 

a gwylia ddafnau o fywyd yn llithro heibio. 

Wrth i’r dŵr godi dros Gymreictod y cwm 

clyw’r boen yn ffarwél y menywod 

sy’n cyfrin-datŵio straeon i’w crwyn ei gilydd. 

Yn yr harddwch a’r gwaed y mae’r hanes, o hyd. 

Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru 

Cyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne 

 

Cafodd y gerdd hefyd ei chyfieithu i’r Ffrangeg ac Iseldireg a’i rhannu yng Ngŵyl Transpoesie, Brwsel.

Gellir darllen ‘Beauty and Blood’ ynghyd â’r cyfieithiadau ar wefan Transpoesie: http://www.transpoesie.eu/poems/941 

Cyhoeddwyd ‘Beauty and Blood’ yn wreiddiol yn My Body Can House Two Hearts, Hanan Issa (Burning House) 

Nôl i Cerddi Comisiwn a Gwaith Creadigol Hanan Issa